Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

29.6.06

Mi a gyuaruueis a kanwr mawr o uri tra'n prynnyaw kwrw

Yr wyu yn hoff o kanu, yn enwetik pann uy mot yn fedw a phawp eryll yn uedw heuyt, a kanwn ganeuonn megis Sospan Uach, Gwenno Penn y Kelli, E Rotiwr Gwyllt, Bing Bong Be ak atti, onyt yr wyu heuyt yn hoffi kyngherdeu, yn wir, pann uo yno uar a diodyd yn lliuaw yn huawtyl. Onyt nit hwnnw yw uy ystori hedyw. Na, gydymdeith, gwrandawet, kanys da yw.

Seu a geueis yr anryded yn diwedar o gyuaruot gwr tra enwawk yn yr archuarchnat yn Kaer Seint yn Aruon pann ydoed eu yn prynnyaw gwin a myui yn prynnyaw pedwar kann ar hugeyn o’r kwryf melys seu Sion map Smyth. Eithyr pwy ydoed seu, mawr a’r kalonni, Bendikeidurynn uap Deruel! Ie, kanys kanwr o uri yw eu, akk yn treuny gwyl uawredok yn agos i Uangor Iskoed yr hau hwnn. Geilw rai eu yn Bendigeiturynn, onyt Brynn deu Uynn mae popol lleawl yn y alw, kanys, neut, uot deu uynn yspwryel gandaw y tu allan y’w gartreu, kanys mawredawk yw y lodesteu a’r bwytaw yssyd yn mynet ym mlayn yn y ty eu.

Seu dyma yn sgwrs:

MYUI:: Ha, Urynn! Pa sut hwyl?
EU: Ha, bersonn pittw. Diolchau am dy gyuarch. Da, eneit.
MYUI: Klywau dy uot yn kynnal kyngerd enuawr yn lleawl, neut ym mis Awst, a bot llawer o popol enwawk o letlet y byt yn dyuot i kanu ar y llwyuann, a mawr uyd llawennyd pawp yssyd yn gwylyaw?
EU: Ie. Da, eneit. Byd yno Katrin Siencyn, ac heuyt Westlife.
MYUI: Eithyr, pwy?
EU: Westlife. Yssyd yn ieith Ynys y Ketyrn, Bywyt y Gorllewyn. Da, eneit.
MYUI: Och, onyt Bywyt y Gorllewyn ydynt gwrp yssyd wedi pasio ei dydiad gwerthyant, tebyk i’r kannieu hynn o Sion map Smith, yssyd yn bargain price, eneit. Yn okystal, Bywyt y Gorllewyn ydynt yn waeth y’w kliguet na rekkortiat teirawr o Sioned Stryt Porthor yn kael kachyat ymywn Portalw. Na, eneit, wir yr, kanys yr wyu weti kliguet y deu, a gallau gymharu. Och.
EU: Na, eneit, angkywir yr wyt. Kanys gwych ydynt Bywyt y Gorllewyn, a byd yn denu llawer o popol iueinc gyta y rendisiyn o “Tyred, eheta gyta myui” a kanneuon eryll gann Ffreinc Sinatra.
MYUI: Och o’r galanas hwnnw. Bydau yn siwr o dyuot i wrandaw, eithyr i eisted yn y palleu kwrw ac yued uy hun mor uedw nes uy mod bellach methu a kliguet na deunydyaw yr un o uy phum synnwyr.
EU: Ie, dyna uydau inneu’n y wneuthur heuyt. Da, eneit. Onyt wele ar y nosweith olau byd Dauyd Iwan yn gwneuthur y berfformyat olau olau eryoet byth bythoed byth mwy eryoet olau byth etaw. A byd yn kanu “Ymma o Hyt”, yssyd yn disgriuyat da iawn o’y yrua eu. Da, eneit.
MYUI: Ha, Urynn, da yw hynny, kanys hoff wyu o berfformiadau olau olau eryoet byth bythoed byth mwy eryoet olau byth etaw Dauyd Iwan, kanys didanol ynt. Minneu a es i un flwydyn diwethau, ac etaw yn dwy uil. Ethyr, rait immi uynet yn awr, kanys mae gonrest uawr ar y teledyd, seu Din-Wimpl, yssyd pa le mae dynyon yn y hoet a’y hamsser yn gwisgaw trowsus kwtta ak yn taro pel uechan uelen o gwmpas cae am bumm awr, a didanol yw kanys mae pop Seis yssyd eryoet weti chwarae yr ornset honn wastat yn kolli, kanys krap ydynt ar pop math ar chwarayon, a mawr yw uy nidanwch i o’r herwyd. Eithyr, Brynn? Brynn?

Onyt, na, och ag oy, yr ydoed weti kropian ymaith i’w balas a’y deu uynn hep immi sylwi, a neut i dreunu mwy ar y gyngerd mawredawk hwnnw gyta bandieu keu Gwydelek. Myui a es atreu i rannu kannieu gyta Mihangel Pontstefan, kanys dyna beth yr wyu yn y alw yn brynhawngweith gwerth chweyl o weith kalet.

26.6.06

Myui a euthum ar tauarngropiat gyta deu gydymdeith medw

Diw Satwrn diwethau nit kat uawr a uu, na, eithyr kropiat tauarn, seu pa le y mae sawl gwr praff yn mynet ar ei hynt mewn gosgord o un mann yuet i’r mann nesseu, gann yuet o leiau un peint o’r kwrw da ym pob mann. Kanys y diwed pop tro ydyw medudot llugir. Seu myui a euthum ar kropiat megis hwnn, gyta deu gydymdeith da immi: seu eu henweu Day Day (kanys Dauid Dauides yw y enw bedydol kywir) a heuyt Mihangel Pontstefan, ydoed yn chwarae’r offerynn yn y ieuengktid ond yssyd nawr yn hoffi yuet mwy, ak yssyd yn anaml yn sopor. Ym Bangor Iskoed ydoedd y kropiat, kanys tauarndai da yssyd yno, neut heplaw’r Three Bells yssyd yn dive a’r Wythongawl yssyd yn freakish ripoff.

Megis kychwynassom yn kropiat yn y Bellevue, yssyd yng Kymraeg yn medwl Golykfan da, eithyr ym barn myui a Day Day nit da mo’r golykfan, kanys golykfan o ystryt uawr, Chinkys a tattoo parlour yssyd i’w welet. Golykfan da, hep Mihangel, y buassay traeth estron gyta deu kant bun hanner noethlymun yn y dyllat nouiaw sgimpi. Neut, yn rwbiaw olew heul drostynt y gilyd. Ak hep Day Day, yssyd yn rampant feminist er y hoffter o yuet a chwaray Dead Or Alive Beach Volleyball, “nit uel ynna y mae trin bunod, Mihangel Pontstefan, kanys popol ydynt yn y own right. Nit ymywn biciniau tileu yr ydynt y’w gwelet, na, eneit, seu yw hynny sexual exploitation ak yn karyaw jailtime diderfyn, eithyr gelli uot allan ymywn teir blyned dann y sgim newyd.” Ac hepais i, “Day Day, ydwyt weti bot yn darllen Germaine Greer etaw? Neu, eneit, yn gwrandaw ar Anne Widdecombe, yssyd yn right scary ak yn emasciwleiddyaw myui gyta phop geir o’y tauawdl?” “Ie,” hep Day Day, “kanys yr wyu yn hoffi’r llunyeu yn The Female Eunuch, eithyr myui a’y pryneis gan uedwl mai porn ydoed.” A chwerthinassom, kanys mong ydyw Day Day mywn gwirioned.

Nyni a elom nesau i’r Fat Cat, seu yn ieith Ynys y Ketyrn, Y Cath yssyd yn Tew. Ac hep Mihangel Pontstefan, sioc butur yn ymwneud a cath, mal y mae yn amal yn gwneuthur, ak etaw hep Day Day, wrth yuet peint o kwrw drwy welltyn yn y trwyn, “na, eneit, etaw a'r woman-bashing. Nit yw’n kywir gwneuthur siociau buturon yn ymwneuthur a darneu dirgel bunod. Nit dikriu yw.” Eithyr myui a Mihangel oedym yn chwerthin namyn hynny, kanys tra uedw yd oedym. A llit ryfed daeth dros Day Day, ak eue a rwygawd y grys a throy yn wyrd a mawr, eithyr ystori am gyunot arall yw hynny.

Weti kael yn rydhau o’r karchar, euthom ym blaen a’r kropiat. Kawssom neut peintieu brau yn yr Albion, yssyd kywir enw Ynys y Ketyrn, ak heuyt yn y Wetherspoons, yssyd yn enw ot nas gallau y gyuieithaw, onit y uot yn corporate megagiant yssyd yn kymryt drosod small independent tauarndai, ak yn gwneuthyr i bobol KAMRA uot yn llitiawc a rwbyaw y barueu yn llawn atkased, tra, neut, yn yuet y kwrw da yssyd ar werth yn y tai tauarn hynn. Yna, gwedy hynny, nyni a uynedassom i y Ship, yssyd yn Kymraeg yn Llong, a mawr ydoed penpleth Day Day, kanys nit ytoed erioet gweti bod mewn llong nat ydoed yn symut nak, yn wir, yn llong. Eithyr gweti tri peint o Brain’s Skull Attack, mawr ydoed y lawenyd, megis Matholwch yn oes a uu pann sylwawd y gallay bigaw uyny yr insurance ar y geffyleu, a diolch ydoed i Eunissyen, ak wele yr biggest insurance fraud in ye olden times, ond ystori am gyunot arall yw hynny.

Eithyr wetyn anghouiau yn uniawn pa leuyd yr elom, kanys medw oedwn, medw iawn, eithyr kouiau inni orffen ein kropiat yn yr Wythongawl, seu yn tafodieith lleawl, yr Okki, a kerdoriaeth ryfed ydoed yno, a diodyd drutuawr, a genethod hanner noeth. Ak etaw yr hep Day Day, wrth welet Mihangel Pontsteffan yn chwaray gyda y offeryn hynauawl yng gwyd tair geneth gegrwth, “och o’r angkywirdep gwleidydol yssyd y’w welet yma! Meuyl i mi ony cheissau i waret rac hynn.” A taulawd y hun y mywn i’r peir, eithyr nit oed pair yno, kanys medw ydoed, ak yn gwelet petheu. Yr hynn a neitiawd idaw mywn gwirioned ydoed toiletau y bunod, ak o’r herwydd kauod eu good seeing-to gan y bownseryeid, ak myui a uasswn weti roi kymorth idaw, pe nat oedwn i’n uedw gaip yn y kornel. Kanys dyna yw teruyn pop i tauarn kropiat, a dyna neut teruyn fy hanes inneu am y tro, gydymdeith da. Och o’r penn mawr, och yn diruawr.

23.6.06

Mi a weleis ornest bel y troed

Ac eisted yr oedwn prynhawngweith yng Kaer Seint yn Aruon, neud, yn y tauarn yn kymryd llynn brau. Wele, yr oed y teledydd yn dangaws da raglenn pa le roed y Lloegrwys yn brywdraw Swetenn mewn gornest pel droet, a hynn eneit achaws ei uot yn Kwpann y Byt, a phop ffecyn tauarn yn dangos hynn. Eithyr, yr oedwn rhy uedw i gyuodi o'm ystol.

Megys roedynt keunogwyr y Lloegrwys kau yn gwisgaw kroesi koch ar eu wynebau ac yn chwiuiaw baneri megis brwydrwysyddion oes a uu. Ac wele yd oeddynt yn keissyaw gwthiaw'r Swetydwyr dewryon o'u grwwp kanys Trinitat ak hep eilltyaw Tobagaw ac ie Paragwayw yd oeddynt kymeint gwell na Lloegyr, ond bod Trinitat ak hep eilltyaw Tobagaw yn shat ypon gan hunan gowl yn eu gornest gyntaf a hynn, hep Gareth Linecrwys ar y teledyd, ydoedd yn peth da i Lloegyr, ond, hep llawer, peth gwell ydoedd gweld Mihangel Owein yn myned ymdaith gwedi llei na munut o herwydd koes giami, a'r ffeith ei uot megis merch uach yn beichiaw a'r Swetydion dewr a'r Kymry atref yn chwerthin; da ydoedd. Ont ie, Lloegyr oeddynt angen peidiaw kolli, kanys pe kolledeint, gwynebu Brawsyll yn y rownd nesau y bydent, ak wedyn Ariannynn, a wele bydent yn kael eu huro megis cnut o Saesson yn Deiniolen.

Ac hepe myui yn uy penn: "och! o'r galanas nas ennillay Swetenn o'r hynn."
Ond, wele, nit distew digon yr oedwn, kanys Koui medw oed wrth uy ymmyl, a hep eu: "ha, gont. Pa hamm y wylit, ynde?"
Hep i: "Wylaw'r wyu, o Goui brwd, kanys Lloegyr fydant yn kuraw, achos, wele, Pedr Krawts syd yn gawr gangli megis Bendigeidurann namyn y suave bridge-building skills, eithyr, mae mor effin tal nas ydynt y Swetydwyr yn gallu kyrraed y pel kymeint ak eu. Heuyd mae gwep Gwion Rhwyni megis gauyr, ac mae'n diruawr achos imi wylaw'n heli, kanys wele uod y gariat yn fairly presentable a wele heuyd kariat Pedr Krawts yssyd wedi gorfawt bot yn dall neu mewn very poor disco lighting pann gyuaruont hwyntwy. Kanys, mal y dywedais, gangli a hyll mal pechot ydyw eu."
Hep y Koui, gann syllu i mywn i'w wydr yn uedw, uedw: "Ie, enait, ont gwrandaw tithey ar doethinep y Kouieu. Kanys, er gwiriondep ymffuruiat dechreuol Sweyn Gronw Eirugson, a'y syniat hoyw o roi dim ont Pedr Krawts yn y gwann, och, ennill a wnaiff y Lloegrwys, yn di ameu."
"Ond, Goui medw", hepeu i, "pa doethinep yw hynn? Namyn mwy na'r hynn a dywedais inneu, ont mewn akenn mwy Koui a gyda mwy o slyrio o herwydd y kwrw."
"Keu hi, gont," hep y Koui, gan chwytu'n hylyw dros fyn esgitieu, "kanys hynn yw fy doethinep: klyw y byd Lloegyr yn ennill yr ornest honn, ont bydant o'r herwydd yn gwynepu timeu eraill yn y dyfotol. Namyn Brrawsyll a'u chwareuwyr megis Rheinalltiniaw, Rhiefaltaw a'u tebyk, ond eithyr y gwynepant Echwatawr. Dychmyga, gon, petassei Brawsyll yn kuraw Lloegyr. Pa feuyl fydei yn hynny, a hwynthwytheu wedi goreuaw mewn tri Kwpann y Byt o'r blaen? Na, eneit, gwell gwelet Lloegyr yn sufferio almighty crushing defeat, a gwir ueuyl ar eu beiru, gyta Echwatawr. Wele, doethinep y Koui."
Ac ar hynny, y Kouieu oll yn Kaer Seint a gyuodassant a gweidi "You're shit-ah" achaws i'r golgeitwat Lloegrwys, Rhopinswyn, uethu a kreu kyuamot a'r bel wrth iddaw hetuann megis eryr dan y bar.
Ac wele, gweleis i mai gwir ydoedd yr hynn a ddywawd y Koui bach medw.

Ac wedi hynny, yuais ddek peint yn chwanek o'r kwrw melys, ac ysywaeth ni chouiau ragawr, eithyr taulyd i uynyd tu allan i Koui Roc. Rhagawr o newydion, gydymdeithion hoff, a daw o uywyt Kymro Kanol, myui, pann elo'r penn mawr yssyd gennyu ymdeith. Och o'r gouynn am aspirin.