Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

23.6.06

Mi a weleis ornest bel y troed

Ac eisted yr oedwn prynhawngweith yng Kaer Seint yn Aruon, neud, yn y tauarn yn kymryd llynn brau. Wele, yr oed y teledydd yn dangaws da raglenn pa le roed y Lloegrwys yn brywdraw Swetenn mewn gornest pel droet, a hynn eneit achaws ei uot yn Kwpann y Byt, a phop ffecyn tauarn yn dangos hynn. Eithyr, yr oedwn rhy uedw i gyuodi o'm ystol.

Megys roedynt keunogwyr y Lloegrwys kau yn gwisgaw kroesi koch ar eu wynebau ac yn chwiuiaw baneri megis brwydrwysyddion oes a uu. Ac wele yd oeddynt yn keissyaw gwthiaw'r Swetydwyr dewryon o'u grwwp kanys Trinitat ak hep eilltyaw Tobagaw ac ie Paragwayw yd oeddynt kymeint gwell na Lloegyr, ond bod Trinitat ak hep eilltyaw Tobagaw yn shat ypon gan hunan gowl yn eu gornest gyntaf a hynn, hep Gareth Linecrwys ar y teledyd, ydoedd yn peth da i Lloegyr, ond, hep llawer, peth gwell ydoedd gweld Mihangel Owein yn myned ymdaith gwedi llei na munut o herwydd koes giami, a'r ffeith ei uot megis merch uach yn beichiaw a'r Swetydion dewr a'r Kymry atref yn chwerthin; da ydoedd. Ont ie, Lloegyr oeddynt angen peidiaw kolli, kanys pe kolledeint, gwynebu Brawsyll yn y rownd nesau y bydent, ak wedyn Ariannynn, a wele bydent yn kael eu huro megis cnut o Saesson yn Deiniolen.

Ac hepe myui yn uy penn: "och! o'r galanas nas ennillay Swetenn o'r hynn."
Ond, wele, nit distew digon yr oedwn, kanys Koui medw oed wrth uy ymmyl, a hep eu: "ha, gont. Pa hamm y wylit, ynde?"
Hep i: "Wylaw'r wyu, o Goui brwd, kanys Lloegyr fydant yn kuraw, achos, wele, Pedr Krawts syd yn gawr gangli megis Bendigeidurann namyn y suave bridge-building skills, eithyr, mae mor effin tal nas ydynt y Swetydwyr yn gallu kyrraed y pel kymeint ak eu. Heuyd mae gwep Gwion Rhwyni megis gauyr, ac mae'n diruawr achos imi wylaw'n heli, kanys wele uod y gariat yn fairly presentable a wele heuyd kariat Pedr Krawts yssyd wedi gorfawt bot yn dall neu mewn very poor disco lighting pann gyuaruont hwyntwy. Kanys, mal y dywedais, gangli a hyll mal pechot ydyw eu."
Hep y Koui, gann syllu i mywn i'w wydr yn uedw, uedw: "Ie, enait, ont gwrandaw tithey ar doethinep y Kouieu. Kanys, er gwiriondep ymffuruiat dechreuol Sweyn Gronw Eirugson, a'y syniat hoyw o roi dim ont Pedr Krawts yn y gwann, och, ennill a wnaiff y Lloegrwys, yn di ameu."
"Ond, Goui medw", hepeu i, "pa doethinep yw hynn? Namyn mwy na'r hynn a dywedais inneu, ont mewn akenn mwy Koui a gyda mwy o slyrio o herwydd y kwrw."
"Keu hi, gont," hep y Koui, gan chwytu'n hylyw dros fyn esgitieu, "kanys hynn yw fy doethinep: klyw y byd Lloegyr yn ennill yr ornest honn, ont bydant o'r herwydd yn gwynepu timeu eraill yn y dyfotol. Namyn Brrawsyll a'u chwareuwyr megis Rheinalltiniaw, Rhiefaltaw a'u tebyk, ond eithyr y gwynepant Echwatawr. Dychmyga, gon, petassei Brawsyll yn kuraw Lloegyr. Pa feuyl fydei yn hynny, a hwynthwytheu wedi goreuaw mewn tri Kwpann y Byt o'r blaen? Na, eneit, gwell gwelet Lloegyr yn sufferio almighty crushing defeat, a gwir ueuyl ar eu beiru, gyta Echwatawr. Wele, doethinep y Koui."
Ac ar hynny, y Kouieu oll yn Kaer Seint a gyuodassant a gweidi "You're shit-ah" achaws i'r golgeitwat Lloegrwys, Rhopinswyn, uethu a kreu kyuamot a'r bel wrth iddaw hetuann megis eryr dan y bar.
Ac wele, gweleis i mai gwir ydoedd yr hynn a ddywawd y Koui bach medw.

Ac wedi hynny, yuais ddek peint yn chwanek o'r kwrw melys, ac ysywaeth ni chouiau ragawr, eithyr taulyd i uynyd tu allan i Koui Roc. Rhagawr o newydion, gydymdeithion hoff, a daw o uywyt Kymro Kanol, myui, pann elo'r penn mawr yssyd gennyu ymdeith. Och o'r gouynn am aspirin.

6 o sylwateu:

Hep Blogger Huw

Waw. Diolch byth wnes i Gymraeg i lefel A.

Dwi gallu dallt y rhanfwyaf ohono.

26/6/06 10:28 AM  
Hep Blogger Llefenni

Gwychbeth :-D

26/6/06 10:52 AM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Hawdamor, Huw Dyuroed a Lleuenni; diolch am ych keuynogaeth. Da gwelet bot Kymraeg Leuel A yn da i rywpeth, eneit.

26/6/06 11:01 AM  
Hep Blogger Ray Diota

Henffych kymro kanol!

Och joio! A hoffet gyfrannu at dim lol? Wy di bod yn chwerthin fel babwn ar hwn trwy'r bore!

anfona neges at ingaray@hotmail.co.uk

go on! plis! hehe!

mawr uyddai uy ngwerthuawrogiad!

26/6/06 12:25 PM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Ha, Ray Diotwr. Diolchiaday am dy eirieu brwd. Hoffwn gyurannu yn diruawr at dy gyhoedyad nobl. Kyn bellet a mot i yn sobr, heuyt. Neu'n wedol sobr beth bynnak.

26/6/06 2:07 PM  
Hep Blogger Mei

Kanys hynn yw doethinep Goui praff arall:

Kip ep dy gwt wyrk.

28/6/06 2:29 PM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu