Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

26.9.06

Minneu yn esbonyaw uy trafferth gyta bunot, a mal y maent yn rodi penn tost i Kymro truenus

Wele, myui yssyd gweti bot yn sal iawn y dydieu diweythau hynn, och arswyduss o'r auiechyt hwnnw yssyd yn taraw pop gwr yn y dro. Seu yr auiechyt, annwyt y penn. Och o hwnnw eilgweith, hep myui, kanys nit ydynt Beechamyeit neu Lemsippyaw yn ych helpyaw pann ydych gydak annwyt y penn; namyn un peth yssyd yn gweithyaw, a hwnnw seu Tenants Special. Reit yw yuet dek kann o'r dyot dieulik hwnn bop diwrnod am seith diw, ak yna, gydymdeith hoff, llyma ych dadepru. Eithyr, gweti seith niwrnot o Tenants Special yr wyu yn awr gyda penn mawr mwy na phenn Aled ap Sion wrth idaw welet y siek am gyulwynawu Kaniateu Adoli (yssyd yn goppi o Dechreu Kanu Dechreu Kanmawl beth bynnak). Penn mawr, eithyr penn hep annwyt yndaw. Da o hynny.

Onyt sut, ue'ch klywau yn traethu, y keueist titheu yr annwyt penn mawr MAWR hwnnw, Kymro Kanol? Ha, wyr a bunot, myui a dywetau wrthych.

Wele, mal y kouiwch, yr oedwn gweti gwahod y uun hynot y chyghaned Anti Neli am diot yn Koui Karrek wythnos diweythau. Mawr ydoed uy ouyn am hynn, kanys yr oedwn gweti klywt ar y si yssyd yn tramwyaw trwy Kaer Seint, a gann Day Day yssyd yn gwypot a uath betheu, bot Anti Neli yn hen ak yn uisgrell ak yn kasglu kathot ak yn bwytaw plant (onyt euallei bot Day Day yn gwneuthur hynn i uynyd mal pann y dywetod bot bunot Deinyolenn yn agor y koeseu am bunt. Kostyaw bron dwyweith hynny y mae.). Yuelly, mynet y gwneuthum i Koui Karrek, gweti treunu i gyuaruot Anti Neli a'y hadnaphot hitheu trwy y chap melynn a'y syspendars gloywon gwyrd. Onyt hirueith ydoed uy nisgwyl, gydymdeithyon hoffus, a mwyuwy uym pendronni wrth immi yuet un kwryu Almaenik ar ol y llall yn diskwyl amdanni.

Tair nosonn uel hynn y bum yn diskwyl. Gweti y trydyd noson, hepe ui yn uym penn: "Och a wi, Kymro, nat wyt gweti diskwyl llawn digonn am honn. Paham y dewiseist titheu hyhi, pann ydoed yn amlwk bot ereill yn llawn mor barot i rodi y kalonneu a'u aryan kwryu itt? Paham, yn neilltuawl, na eli ditheu gartreu ak yuet mwyuwy o diot da gann wylyaw "Pa uod y mae i wrda datrys penpleth mal Mair?" (eithyr, gwae ui, y gyures gywrein honn yssyd gweti gorffen, och o'r diurot i yrua Garmon Northwyn)." A wele, myui a euthum o Koui Karrek, yn eithau medw, eneit, a mynet tua threu.

Onyt, wrth immi uynet ar uy hynt, teimlaw mawr ysiktot a wneuthum, kanys y kwryu Almaenik yssyd yn gallu gwneuthur diurot mawr i du mywn un ryw Kymro. Ak o'r herwyd, minneu a oruu eisted uy hun ar orssed gerllaw, seu ydoed ar y Kei ger y Kaer. Ak wrth immi etrych allan tua'r dreu, myui a syurdaneis wrth immi welet gwreic ar uarch canwelw mawr aruchel, yn dyuot ar hyt y prifford a gerdei heb law yr orssed. A wele, hitheu ydoed yn noethlymunn borkyn groen, a dim gwisk o bali o gwbwl GWBWL arni. A hep myui wrthi uyn hun yn uy penn, "wele, Kymro, reit yw bot hi yn wythnos y glas ym Bangor Iskoed, kanys dim onyt pryd hynny y mae bunot iueink yn diosk y gwisgoed am dim reswm amlwk ak gwetyn marchogaeth meirch." Eithyr, er hynny, myui a geueis uy swynaw, a keissyaw mynet ar ol y wreik a wneuthum. Onyt pa mor agos y deuthum at y wreik honn, llyma y pellter odi wrthyu yn ehagu. Ak er immi ruthraw i dal i uynyd a hyhi, wele y pellau uydei hitheu odi wrthyu ui. Eithyr nit mawr ydoed uy syurdan, kanys medw oedwn, ak yn goruot kropian ar uym petwar.

Yuelly, seu y diwrnot wetyn, myui a euthum eto i'r orssed ger y kei ger y Kaer, ak eisted arnaw, a llyma etaw y uun noeth ar geuyn y march kamwelw mawr aruchel (och o'r bardoni yssyd yn uyg gwaet!) yn mynet ar hyt y fford. A llyma ui yn keissyaw y hela unweith etaw, a'r tro hwnn myui oedwn yn llai medw (onyt dal yn eithau medw, kanys gweti amser kinyaw yr oed) ak heyut gweti dwyn motorised scooter Mihangel Pontsteffan i'm kynorthwyaw. Onyt, och, etaw yr un peth yn digwyd, seu pa mor agos y delwyu atti, seu y pellter hitheu odi wrthyu yn dinewit.

Wel, erbyn y trydyd diwrnot, eneit, gweti uy mawr pissyaw ymdeith yr oedwn, kanys nit ydoed hynn yn uuudhau i reoleu Physek o gwbwl GWBWL, eithyr medau inneu wrth uy hun, "Kymro, yn pop un chwetyl Kymraek Kanol, reit yw i wneuthur popeth deirgweith, ak ar y trydyd tro, llyma y kynllwyn yn llwydaw". Yuelly, y trydyd diw myui a euthum at yr orssed, ak wele etaw y uun yn dyuot ar y march kamwelw etc., onyt y tro hwnn myui a auaeleis mewn kolommen ydoed gerllaw yn bwytaw uy sglotionn, a'y LLUCHIAW at y uun. Ak wele, llyma y golommen yn taraw y uun ar y penn, a hep hitheu "Aw! Ffwk!" a diskynn odi ar y march a syrthyaw i mywn i'r Auon.

"Och a wi a wo!" hepeis wrth welet uyg kamwed a heuyt poeni y bydei Iawndal Unionsyth yn uy sarnu a dwyn uy holl aryan kwryu, a wele uy plymiaw y mywn i'r dwuyr ar y hol. A wele, i dorri ystori hir a diulas yn ychytik llai hir a diulas, myui a'y hachupod a'y karyaw i'r lann.

Ak wele, yr hedlu oedynt yno, a mawr ydoed yr ocheneityaw a'r tynnu gwallt wrth immi geissyaw esbonyaw pam oedwn yn wlyp domen ak yn kydyaw buun noeth yn uy nwylaw ak heuyt yn drewi o Tenants Special. A hepe ui, "Ha, wyr, marchogaeth ydoed ar geuyn march kamwelw mawr aruchel, a kaffael trafferth i'w dal oedwn, ak yuelly taulu kolommen nepell a wneuthum, ak o'r herwyd hyhi a syrthiod ar y penn i mywn i'r auon. A llyma ui yn y hachub."

A hepent hwy, "OK". Kanys gwyrda yw hedlu Kaer Seint, ak yn ymdiriet mywn Kymry Kanol kall mal myui.

Ak wele, myui a etrycheis i mywn i lygeit y uerch ydoed yn uym breichyeu, ak wele, oedynt yn biws! "Och!" hepe ui, nit am y tro kyntau y diw hwnnw, "ai tydi ydyw y uerch a'r llygeit piws, eneit?"

"Wel, debyk," hep hi.

"Och!" mede ui (gann wneuthur notynn yn uym penn i dechreu medwl am ebychyat newyd), "ony weli pa mor debyk i geink Pwyll a Rhiannon yw yr hanes hwnn? Ak wele, yn y chwetyl honno, Pwyll a gauod gysku gen Rhiannon, a mawr ydoed y streetkred eu ymysk y gwyr ereill o'r herwyd. A gau inneu wneuthur yr un peth genti?"

A hep hi, "Na, Kymro, kanys yr wyu mewn poen ar ol i ryw kolommen daraw uym penn, ak yn oer ak yn wlyp ar ol hanner bodi yn y dwuyr, ak heuyt wyt yn bot yn llei ramantaid nag y gelli gann dy dwylaw yssyd yn phondlyaw uym bronneu swmpus."

"O, sori," hep myui (onyt dim yn sori mywn gwirioned).

"Ak yr wyu nawr yn kysylltu a Iawndal Unionsyth, kanys wyt gweti achosi diurot immi," hep hi.

"Keillyeu", hepe ui.

Ak wele, hyhi a aeth ymdeith ar y march kamwelw &c. Onyt nit wyu etaw gweti derbyn negesseu gann y kyureithwyr yn uy bygwth am y treissyaw ak aderynn mor, nak ychweith gweti derbynn neges gariadus arall genthi, onyt yr wyu gweti dal annwyt yn uy penn o neityaw i mywn i'r auon ar y hol. Eithyr, kretau y bot i gyt yn wrth eu, kanys yr wyu yn kouyaw yr olykua wrth idi uarchogaeth odi wrthyu yn dinoeth, a myui yn y kytyaw yn uym breichyeu ar kei Kaer Seint, yn y phondlyaw mywn lle kyhoedus. (Gwell, a rhatach, na pornographaeth yw y medylieu hynn, gydymdeithyon.)

Och, uerch a'r llygeit pwis! A wnei uadeu immi? Ak a wnei di esbonyaw kyurin uesureu dy uarch kamwelw five-speed GTI imm? Kanys wyu ymouyn un. Byd yn da i gaffael i ffwrd o Day Day pann y mae yn uedw ak yn gwneuthur datleuonn ffeminydeid gwiryon.

6 o sylwateu:

Hep Anonymous Anonymous

Kymro, kreatur kreulon wyt! Nyt yn unic y keueis uy ymwrthot gennyt, keueis uy nychryn wrth itti uy hela mal kwningen wyllt (medwl yr oedwn mai newydiadurwr o'r kylchcrawn Golwc oed yno yn chwiliaw am ekskliwsiu), a gwaeth ettaw seu a wnaethost un prynhawngweith uym knokiaw gyta klamp o golomen! Dyma yw y fford y mae dyn o'r oesoedd kanol yn kaffael gauael ar uerchet? Gwir yw uot Ffret Garec Fflint yn gneuthur rhywbeth tebyc i Wilma ers talwm.

Ac och a wi, oed y dwuyr yn oer ak yn wlyp, uel y mae dwuyr uel aruer, a minnau'n fflapian uel lleten. Lwk uot gen ti y leisans deep sea diver! Oherwyd y gnok ar fym penn, parot oedwn i uaddeu itti ac ymtodi mal huuuen ia yn dy ureichieu. Ont och o'm kywilyd, a minnau hep ddim i guddiaw uym kywilyd pan gweleis y goleu glas. A chyn i betheu uynt yn ulerach mynet a wnes ar garlam o Gaer Seint.

Bellach yr wyu wrth uur kastell arall yn medwl wrth uy hun sut y kefeis i y blyti anwyt. Kerdet heibiaw yn dal eu trwyneu y mae'r pobloed o'm kwmpas - euallei nat yw ogleu y saim gwyd a rwbieis ar uy mrest yn dderbyniawl idynt. Ereill yssyd yn syllu ar uy ngweuleu Mik Jaceraid, Kanys nyt gwled i'r llygeit wyu i ar ol kaffael alergic reaction i'r Beechams. Och ohonnau nat oes gennyu ddim ont yr anwyt a'r kec sws i'm hatgoffa ohonnot ti. XXX

5/10/06 11:40 PM  
Hep Anonymous Anonymous

Kymro - deusyuau vod gennyt diddordeb yn y wefan yma yssyd (neu'n rhannawl) yn yr heniaith Sawsonek ac o dy gyvnawd di:

www.tha-engliscan-gesithas.org.uk/gegaderung/default.asp

Huw

13/10/06 2:08 PM  
Hep Anonymous Anonymous

Pa le yr wyt yn kudiaw Kymro? Gobeithiaw nat wyt gweti marw o achos yr anwyt. pa bryt y kau i darllen mwy am dy anturieutheu? Sara.

22/10/06 2:43 PM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Diolch Huw am rodi'r negess hwnn immi. Pann y bydau gweti sobri, wele, bydau yn etrych arnaw, eithyr kouia, Kymro diadysk yr wyu, a hep wybodaeth uawr am Hen Saesonek. Dim onyt gwyr ot yssyd yn deall hynny.

23/10/06 11:28 AM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Och Sara! Yr wyu gweti uyg kyphwrd (eithyr nit yn y fford angkyureithlon yssyd yn arwein at ASBO) gann dy hiraeth attau. Wele, yr wyu gweti dychwelyt, ak yr awron mae uy hanes diwedarau ymma itti y welet. Diolch am aros yn dryw, eneth da.

23/10/06 11:30 AM  
Hep Anonymous Anonymous

Good dispatch and this mail helped me alot in my college assignement. Thanks you on your information.

22/6/10 3:16 PM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu