Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

18.7.06

Myui a euthum i welet ffilym a chouiaw ystori debyk

Brynhawngweith yn diwedar yr oedwn yn teimlaw, och ohonaw, uy mot yn treulyaw gormot o amser yn y tauarn. Uelly, neut, dyma uinneu yn mynet i’r sinema yssyd yn Llan Tudno i yuet yn dirkel allan o botel gwrw yssyd mywn boly pappur, a gwelet y ffilym anhykoel GWYCHDYN YSSYD YN DYCHWELYT. A hep myui yn uy penn: ha, eneit, nad ydyw hynn yn uy atkoffa o ystoria a glyweis beth amsser yn ol? Ac, yn wir, dyma myui yn chwilyaw yn uy kasgliat o hen hen lyfreu, a gwelet yn y plith y geinc hynauawl honn, yssyd, neut, yn debyk IAWN i ffilym GWYCHDYN. A dyma eu i chwi yr awron, un o sawl keink koll y Mabinoggyon yr ydywu yn kadw yn uy llofft odi wrth lygeit yr yskolheigiawn:

--GWYCHDYN UAB IOR-EL--

Seu yn y dydieu hynny ydoed planet Krypdinas yn drwk a llawer o keu bobol arnaw. A dyma Ior-El, ydoed yn wrda a doeth, yn rodi y unig uab, ydoed y enw Kawl-El, ymywn llong siap wy, a’y danuawn ymdeith i’r gouot. A dyma Krypdinas yn malurio ac yn diulannu i mywn i dwll du, kanys keu ydoed, a da, yn wir, ydoed yr effeithieu arbennig a wneuthpwyd gann y kyuriuiatur.

A wele, dyma Kawl-El yn cyrrhaed y daear, ac yno yr oed gandaw rymoed hynot, megis ydoed yn gryu mal kawr ak yn gallu heduan, ac, yn wir, gymaint oed y gyulumder pann ehedei yr ydoed yn cyrrhaedd penn y deith kynn Virgin Airlines, yssyd yn arau fel rhech eniwe. A dyma eu yn galw y hun yn WYCHDYN, kanys y uot a) yn wych a b) yn dyn, eithyr y uot yn dyn hynot o gyhyrrok a golykus. A dyma eu yn kudwisgaw y hun mal aelot o’r Orsed, a mynet i gudiaw y hun yn y gymdeithas Gymraeg yg Kaer Dif, ydoed yn Ynys y Ketyrn. A gwisg las ydoed y wisg eu yn yr Orsed, kanys y uot dim digon adnabydus na kyuoethawk i gael gwn wenn. A'y enw kud ydoed Klerk Kont, a’y gudwisk hynot anirnadwy ydoed mwstas ffug ydoed yn rodi dann y drwyn. A pann gwiskaw ydoed y mwstas hwnn, ni wydei nep pwy ydoed, eithyr Klerk Kont. Eithyr, pann tynnu y gwnai eu y mwstas hwnn, yr oed gwyr yn mynet: “Ha, eneit, pwy yw eu? Ai aterynn ydyw? Ai awyrenn ydyw? Na, eneit, Gwychdyn yw!”, ac ydoed y gwisg glas derwydol yn troi i mywn i glogyn idaw, ak ehedek ymdeith y gwna i achub rywun a ydoed dim yn gallu tiwnio i mywn i S4K ar y setieu ffriuiw, neu oedynt yn kael trafferth kaffael odleu digriu yn ymrysson y beird, etc. Kanys mawr ydoed parch y popl tuak at Gwychdyn, eithyr pann ydoed yn rodi y uwstas yn ol dan y drwynn eu, nit ydoed neb yn cymryt sylw ohonaw, kanys Klerk Kont ydoed unweith etaw, a diulas ydoed i bobol. A mawr ydoed tristwch Klerk o’r herwyd. Och o hynny, wylwch drostaw.

Ak undyd, dymma Llio Llain, ydoed yn aelot o’r orsed gyta gwn gwynn (kanys aelot pwysik o’r kyuryngeu ydoed hi, ak neut yn kyulwynaw petheu mal Unet 5 a Nosweithieu Llawenn lleawl), ac yn dirgel yn kael y karu gan Klerk Kont seu Gwychdyn, yn kael y herwgipiaw gann y dyn milein o Seis, y enw Llywarch Llwchwr, ydoed yn uoel ac yn hoff o geisiaw kymryt drossod y byt, eithyr i uot BOB TRO YN METHU o herwydd y pesky kids etc. Eithyr y tro hwnn eue a gippiawd Llio Llain yn y hourennyd mawr du, a’y dwyn i’w gartreu mewn ynys bellennik. A dim onyt Gwychddyn allei y hachub.

A mawr ydoed penpleth Klerk Kont, kanys eue a wydei y bydei Llio Llain yn karu Gwychdyn o herwydd y glogyn glas a’y wynneb golyggus di-uwstas, onyt ni uydei byth yn karu Klerk, kanys dyn kyffretin ydoed. Ak wele, gydymdeithyon, metaffor ydoed.

A Klerk a beneruynnawd dynnu y uwstas kyurin a throsi yn Gwychdyn, ak ehedek i wynnepu Llywarch Llwchwr ar y ynyss.

A hep Llwchwr, “Ha ha ha ha ha ha wr, dymma yr wyt weti kyrrhaed uy ynys dirkel. Ak yr wyu, neut, weti kipyaw Llio Llain, kanys ffit uel butcher’s dog yw hyhi, a myui yssyd y phriotti a gwneuthur babbis a hi.”
A hep Gwychdyn, “Na, Llywarch Llwchwr, ni allau adael i ti wneuthur hynn.”
“Onyt,” hep Llwchwr, “wyt ti am geisiaw uy prynnu i ffwrd gyta petheu e.e. papell anuerth, ffon euraid, neu, hint hint, pair dadenni a fydei yn gymmorth mawr gyta uy ymgeis i goti bydin o dynyon nat ydynt yn marw o what a giveaway?”
A hep Gwychdyn, gan chwythu y urest allan yn wrol, “Na, yr wyu am gikkyaw dy din di nol i Bontrytuendigeit, y kokk oen.”

A mal hynn y gwnaeth. Eithyr drwy ressymeu anhebykkol, Llywarch Llwchwr a dihankod, kanys yr oed angen sequel.
A hep Llio Llain mal hynn: “O Gwychdyn, yr wyt a) yn wych ond b) yn dyn ak o ganlynyat yr wyu yn dy garu, eneit. Gwna uabbis gyda myui.”
Onyt Gwychdyn hep: “O Llio, na allet ti uy ngharu uel yr wyu go iawn!” Ac wele, eue a rodod y mwstas yn ol dan y drwynn, a Llio a welod ar unweith mai Klerk Kont ydoed.
A hitheu a aeth “Gwae ui o’m ganet!” A hitheu a uu uarw o dorriat kalon a penpleth llwyr yn y uann.
A hep Gwychdyn: “Shit!”

A uelly y teruynn y geink honn o’r Mabinoggyon.

4 o sylwateu:

Hep Anonymous Anonymous

Gwich!, hep y ffan girl, a Skwi!

18/7/06 8:17 PM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Och, y dyuot at y kyuriuyattur y boreu hwnn a gwelet kymeint o sylwateu gennyt, o Elunet Hen. Diolch amdanynt, kanys da yw gwypot uot gan y Kynro Kanol y ffan-uunot y hun.

Dywedaist mai Gween Rhwyni y "dylai"'r enw uot, onyt ni wn pa beth yr wyt yn y uedwl. Yr wyu yn napot y map yn iawn, kanys y maer pawp o Kaer Seint yn Aruon yn perthyn i Sgowsdynyon ryw fford neu gilyd, onyt Gwion (neu "Gwep Gauyr", neu "Twat") yr ydym ninneu yn y alw bop tro. Ond mae dy awgrym yn dilys. Fel fy modryp o Aberlleuenny, yssyd heuyt yn Dilys.

O ble y doi, wreik?

19/7/06 9:27 AM  
Hep Anonymous Anonymous

Wel, nid o Aberlleuenny na Bangor na Kaer Seint yn Aruon, chwaith. Er, yn ddigon rhyfedd, mae gen i gereint o Ysgowsdynion ar ochr fy mam, meuyl ar fy maruu.

Ond aros eiliad bach nawr, does gen i ddim baruu. Peth da, mewn gwirionedd, neu fyddwn i'n ffan-uun ddigri ar y naw.

19/7/06 12:39 PM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Keir bunot gyda beiru yn pellauoed Sir Benuraw, mi glywau, ple mae pop peth yn tra od a gwyr yn dwetyt pentegili a perki etc. yssyd yn debykawl pam y mae beiru gandynt oll.

Onyt peit poenyaw, kanys gellit kaffael meuyl ar sawl rann arall o dy korff heuyt. Nit wyu am awgrymmu pa rei, uod bynnak, gann na uydei hynny yn gwrteis i wreik uonhedik (a hen).

19/7/06 4:08 PM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu