Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

26.6.06

Myui a euthum ar tauarngropiat gyta deu gydymdeith medw

Diw Satwrn diwethau nit kat uawr a uu, na, eithyr kropiat tauarn, seu pa le y mae sawl gwr praff yn mynet ar ei hynt mewn gosgord o un mann yuet i’r mann nesseu, gann yuet o leiau un peint o’r kwrw da ym pob mann. Kanys y diwed pop tro ydyw medudot llugir. Seu myui a euthum ar kropiat megis hwnn, gyta deu gydymdeith da immi: seu eu henweu Day Day (kanys Dauid Dauides yw y enw bedydol kywir) a heuyt Mihangel Pontstefan, ydoed yn chwarae’r offerynn yn y ieuengktid ond yssyd nawr yn hoffi yuet mwy, ak yssyd yn anaml yn sopor. Ym Bangor Iskoed ydoedd y kropiat, kanys tauarndai da yssyd yno, neut heplaw’r Three Bells yssyd yn dive a’r Wythongawl yssyd yn freakish ripoff.

Megis kychwynassom yn kropiat yn y Bellevue, yssyd yng Kymraeg yn medwl Golykfan da, eithyr ym barn myui a Day Day nit da mo’r golykfan, kanys golykfan o ystryt uawr, Chinkys a tattoo parlour yssyd i’w welet. Golykfan da, hep Mihangel, y buassay traeth estron gyta deu kant bun hanner noethlymun yn y dyllat nouiaw sgimpi. Neut, yn rwbiaw olew heul drostynt y gilyd. Ak hep Day Day, yssyd yn rampant feminist er y hoffter o yuet a chwaray Dead Or Alive Beach Volleyball, “nit uel ynna y mae trin bunod, Mihangel Pontstefan, kanys popol ydynt yn y own right. Nit ymywn biciniau tileu yr ydynt y’w gwelet, na, eneit, seu yw hynny sexual exploitation ak yn karyaw jailtime diderfyn, eithyr gelli uot allan ymywn teir blyned dann y sgim newyd.” Ac hepais i, “Day Day, ydwyt weti bot yn darllen Germaine Greer etaw? Neu, eneit, yn gwrandaw ar Anne Widdecombe, yssyd yn right scary ak yn emasciwleiddyaw myui gyta phop geir o’y tauawdl?” “Ie,” hep Day Day, “kanys yr wyu yn hoffi’r llunyeu yn The Female Eunuch, eithyr myui a’y pryneis gan uedwl mai porn ydoed.” A chwerthinassom, kanys mong ydyw Day Day mywn gwirioned.

Nyni a elom nesau i’r Fat Cat, seu yn ieith Ynys y Ketyrn, Y Cath yssyd yn Tew. Ac hep Mihangel Pontstefan, sioc butur yn ymwneud a cath, mal y mae yn amal yn gwneuthur, ak etaw hep Day Day, wrth yuet peint o kwrw drwy welltyn yn y trwyn, “na, eneit, etaw a'r woman-bashing. Nit yw’n kywir gwneuthur siociau buturon yn ymwneuthur a darneu dirgel bunod. Nit dikriu yw.” Eithyr myui a Mihangel oedym yn chwerthin namyn hynny, kanys tra uedw yd oedym. A llit ryfed daeth dros Day Day, ak eue a rwygawd y grys a throy yn wyrd a mawr, eithyr ystori am gyunot arall yw hynny.

Weti kael yn rydhau o’r karchar, euthom ym blaen a’r kropiat. Kawssom neut peintieu brau yn yr Albion, yssyd kywir enw Ynys y Ketyrn, ak heuyt yn y Wetherspoons, yssyd yn enw ot nas gallau y gyuieithaw, onit y uot yn corporate megagiant yssyd yn kymryt drosod small independent tauarndai, ak yn gwneuthyr i bobol KAMRA uot yn llitiawc a rwbyaw y barueu yn llawn atkased, tra, neut, yn yuet y kwrw da yssyd ar werth yn y tai tauarn hynn. Yna, gwedy hynny, nyni a uynedassom i y Ship, yssyd yn Kymraeg yn Llong, a mawr ydoed penpleth Day Day, kanys nit ytoed erioet gweti bod mewn llong nat ydoed yn symut nak, yn wir, yn llong. Eithyr gweti tri peint o Brain’s Skull Attack, mawr ydoed y lawenyd, megis Matholwch yn oes a uu pann sylwawd y gallay bigaw uyny yr insurance ar y geffyleu, a diolch ydoed i Eunissyen, ak wele yr biggest insurance fraud in ye olden times, ond ystori am gyunot arall yw hynny.

Eithyr wetyn anghouiau yn uniawn pa leuyd yr elom, kanys medw oedwn, medw iawn, eithyr kouiau inni orffen ein kropiat yn yr Wythongawl, seu yn tafodieith lleawl, yr Okki, a kerdoriaeth ryfed ydoed yno, a diodyd drutuawr, a genethod hanner noeth. Ak etaw yr hep Day Day, wrth welet Mihangel Pontsteffan yn chwaray gyda y offeryn hynauawl yng gwyd tair geneth gegrwth, “och o’r angkywirdep gwleidydol yssyd y’w welet yma! Meuyl i mi ony cheissau i waret rac hynn.” A taulawd y hun y mywn i’r peir, eithyr nit oed pair yno, kanys medw ydoed, ak yn gwelet petheu. Yr hynn a neitiawd idaw mywn gwirioned ydoed toiletau y bunod, ak o’r herwydd kauod eu good seeing-to gan y bownseryeid, ak myui a uasswn weti roi kymorth idaw, pe nat oedwn i’n uedw gaip yn y kornel. Kanys dyna yw teruyn pop i tauarn kropiat, a dyna neut teruyn fy hanes inneu am y tro, gydymdeith da. Och o’r penn mawr, och yn diruawr.

2 o sylwateu:

Hep Anonymous Anonymous

Ha was! Da yssyd genny darllen am dy grop. Canys fy nghalon syd bron a thori cann blinder, a chwychwi a doro i lawenyd dywynnu megys yr haul yn y nefoedd. Bendith arnat!

27/6/06 10:01 AM  
Hep Anonymous Anonymous

Falch o weld bod rhai o dai tafarnau Bangor yn dal i sefyll - y job 'di cofio p'run 'di p'run erbyn hyn. "Wyf hen, wyf tri dyblic".

18/7/06 8:29 PM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu