Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

31.7.06

Minneu yn kyuaruot a gelynn mewn seuyllua anaruerawl

Seu uy kydymdeithyawn hoff Day Day a Mihangel Pontseffan ys ydynt yn wyrda a dawnus, ak neut yn da iawn gyta y bunot: Day Day yssyd yn gallu y dennu gyta y rymmoed ffeminydaid, gann y perswatyaw e.e. y uot yn yn deall y proplemmeu ac yn "y gwahod yn ol i'y fflat er mwyn trauawt hawlyeu bunot tross bottel o win". Mihangel, uel arall, yssyd dim onyt yn goruot tynnu allan y offerynn, ak mae pop bun yn y lle yn agor y llygeit mal soserry, ak eisieu proui mwy o'y uysedu kain. Ond myui, eneit, ydwyu fel aruer yn yuet gormot i gael kyule i broui hudolyeith bunot, kanys yr unig rei yssyd yn uotlonn kyuathrach a mi (yr wyu yn son am siarat, nawr, eneit, nit y math yna o gyuathrach--ysywaeth) yw y rei yssyd yr un mor uedw a mi. Kanys ni a wydwn oll, o wyliaw raglenni teledyd ar siannelyeu megis Bravo a Gwyr a Moturon, uot merchet yr un mor drwk y dydieu hynn a gwyr am yuet y hunein yn chwil. Ak mal y maent yn gwisgaw skertieu byrryon, a thoppieu nat ydynt yn kaffael y dal i uynyd gann dim mwy na deu rimyn o edaued, ak yssyd yn aml yn torri gann--och o'r damweinn--ardangaws y darneu dirgel i'r byt ak heuyt y betwss, ak yn enwetik i kamerau siannel Gwyr a Moturon, och o'r kyd-digwydiat hwnnw.

Onyt yr wyu yn kolli edaued uy ystori inney, eneit. Mal yr oedwnn yn son am unot, ak yn enwetik mal nat ytyw bunot yn hoff o Koui Kanol medw yn llymeityaw y deudekuet peint o kwryu ak yn keissyaw dangos y uot yn gallu ennill BOP TRO ar Pwy a Uynn Uot Yn Uiliwnnyd ar y peiriant gemeu yn y gornel. Eithyr, y diw Iau diweythau, pann yr oedwn yn Koui Karrek, ak yn mwynhau y kerdoriaeth amgen yssyd bop tro yn kael y chwarae yno hep eithryat, myui a deuthum yn ymwypotol o uun yn eisted wrth uy ymyl ar y bwrd yn y gornel. Myui a etrychawd yn graff arny, kanys eithau medw yr own, a nit y tro kyntau uydei hwnn i mi gamgymryt bun deniatol am e.e. hen wreik, dyn, kateir, &c. Onyt y tro hwnn, er i mi uot yn eithau medw, gweleis yn diffuant mai bun oed honn, bun brytferth dross benn, eithyr ydoed ryw peth anaruerawl amdanni, namyn nit oedwn yn gallu roi fy mys ar beth ydoedd.
"Ha wr," hep hi, a y lleis ydoed mal sain yr eos, eneit. (Ydwyu, yr ydwyu yn gallu bardonni mor da a Iwann Llwyt weithieu--os nat, neut, gwell.)
"Ha uun," hepe ui, "pa hwyl?" (Llwydeis i atal uy hun rak dwetyt "pa hwyl gont?", mal y mae popol uel aruer yn dwetyt ymma--nit yw bunot yn y hoffi, ak mae Day Day yn enwetik yn medwl mai anuadeuawl yw--ond mong yw eu.)
"Y mae, eneit, hwyl diruawr issel arnau," hepe hi. A mawr ydoed yr ysiktot yn uy kallon o'r herwyd, eithyr yr oedwn dal methu a roi uy mys ar paham ydoed ryw peth yn wahanol am y bun hon.
"Och o hynny!" hepe ui, yn aktyaw mal Klerk Gable neu, neut, Ioan Gruffud yn yr Anhykoel Betwar, ak yn keissyaw swnyaw'n suave, ak, eneit, yn llwydaw. "Gat i minneu wella dy anhuned, arglwydes. Kymro Kanol ydywu inneu. A pha beth, arglwydes, yw dy enw ditheu?"
A hep hitheu: "Bloteuwed ydwyu i."

A dyna uinneu'n sylwi, ie, dyna oedd yn od amtanni--yr oed weti y gwneuthur allan o uloteu; lil'r maes etc. Yd oed y gwallt yn borffor, onyt nit yw hynny yn anaruerawl yn Kaer Seint yn Aruon. Kymereis yn ganyataawl mai chav ydoed hitheu, eithyr yr awron sylweis mai keradigaeth hynot o hudlath a dawn Gwytionn uab Don ydoed hitheu (yssyd yn typical o Gwytionn uab Don--mae popol normal yn mynt i'r tauarn neu deunydyaw match dot com onyt mae reit i Gwytionn dangaws y hunn a chreu y uun y hun allan o lili'r maes etc. Mynk yw eu, onyt beth yssyd y'w disgwyl gann hwntw?)
Namyn, myui a lauareis: "O! Uloteuwed! Hard yr wyt, a dy wallt yn borffor a dy lygeit yn beuryawl ak yn biws, a dy uronneu weti y kreu allan o kenninn Petyr, a dy ranneu dirkel weti y kreu allan o uwsogyl, oed yn uffan o kinki ar rann Gwytionn, a dwetyt y gwir. Eithyr, sut y gall bun mor unikryw a titheu uot mor anhappus? Heplaw am y dqalann poethyon yssyd yn dethi itti (mynk yw Gwytionn)."
"Ha Kymro," hep hi, gann dreipyaw y hun drossou i mewn fford ryyawl iawn (nit yw hynn mal aruer dim onyt yn digwyd i Mihangel Ponsteffan, pan y mae yn y Bala), "yr wyu yn chwilyae am dyn yssyd yn uawr ak yn gryu ak yn gallu uy amdiffyn. Kanys nit yw un dyn arall eryoet weti gallu uy modtlonni mewn materyon kariat."
A hepe ui: "Your luck's in, Bloti kyw. Myui yssyd yn ueistyr." (OK, gydymeithyon, yr oedwn yn dwetut kelwyd goleu, ond yr oedwn yn uedw braid, ak uel hynn y mae pawp yn siarat yn Koui Karrek beth bynnak.)
A hitheu a leuarod: "Ie, kymer ui."

A ninneu a aethom allan (weti tri neu betwar peint yn chwanek, wrth reswm) i lan y Uenei, pa le yr oed hi'n dawel heblaw am y drygis a'r doggers, a ninneu a gussanassom, eithyr hitheu a dynnod i ffwrd ohonou, a dwetyt, "na, eneit, nit uel hynn y mae uy pleseru inneu."
"Onyt," hepe ui, "y mae uel aruer yn gwneuthur y trik."
"Na," hep Bloteuwed, "yr ytwyu yn llawer mwy kinki na hynny."
"Crikey," hepe ui.
A dyma hitheu yn esbonyaw beth yr oed hi eissyau i wneuthur hi'n boeth ak yn barot (y geirieu hi, gydymdeithyon). A mal hynn yr oed.
"Y mae rait i ti uouyn bath o MFI," hep hi, "ak y lenwi a dwr poeth a swigot Herbal Essences."
"Hynn a wnau," hepe ui, a hynn a wnes. (Pann mae bun yn goyunn i chwi lenwi bath a swigot, mae noethlymunrwyd yn warantiedik 93% o weithieu, uelly mae yn llawn werth yr ymdrech.)
"Wetynn," hep hi," tynn dy dillat." Hynn a wnes. (Pan mae dyn yn tynnu y dillat, mae rhyw yn warantiedik 7% o weithieu, uelly mae yn llawn werth yr ymdrech.)
"Ak wetynn," hep hi, "dos i nol gauyr a'i rodi wrth ymyl y bath. Yna rait i ti seuyll ak un troet ar rimyn y bath a'r troet arall ar geuyn yr auyr. Ak, ym, wetynn reit i ti ganu Kalonn Lan tra yn rwbiaw dy uol ak un llaw a thapiaw dy benn a'r un arall."
"Gauyr?" hepe ui.
"Ie, gauyr a rodi un troet--"
"Na, aros ennyt. Gauyr? Uel yn, aniueil o deulu'r dauat yssyd yn aml a chyrn a thymer drwk, ak yssyd yn anhebyk o seuyll mewn un lle am dau uunut, heb son am pam y mae Koui medw yn seuyll ar y geuyn yn kany Sospann Uach."
"Kalonn Lan."
"Beth bynnak. Ond gauyr?"
"Mae eu really yn trossi myui ymlaenn. Gonestrwyd."
Yr oed seibyant.
"Gauyr a bath, blydi hel--"
"Hei, os yr wyt eisieu secs--"
"O'r goreu, o'r goreu ..."

Uelly, beth ymdrech yn diwedarach, myui a geueis auyr o ryw ffarm nepell, a myui a geneis Si Hei Lwli Auri idaw i stoppyaw idaw redek ymdeith/rodi y gyrn miniawk yn uy narneu medal etc.. Ak wetynn, gyta Bloteuwed yn seuyll ak yn etrych, myui a dynneis uy nillat ymdeith, gann ardangaws fuy ffurf gyhyrawk dynol (na chwerthiniwch, gymydeithyon kreulonn), ak wetyn myui a gamais ar drothwy y bath a rodi y naill troet arnaw a'r troet amgen ar geuyn yr auyr, a theimlaw yn uffar o fong, onyt wetynn yn kanu Sospann Uach gan dapyaw uy mhenn a rwbyaw uy mol.
"Na, Kalonn Lan."
"Pa ffecyn gwahanyaeth y mae yn gwneuthur?"
"Wyt eisieu secs?"
"Arglwyd gok ..."

A llyma yr oedwn, am hanner awr weti un y boreu, yn seuyll ar auyr a bath ar lann y Uenei, yn kanu Kalonn Lan etc., ak yn gobeithyaw y bydei hynn yn kreu i Uloteudwed diosk i mantell o lili'r maes etc. a rodi y hun i mi, a gobeithyaw y bydai'r prouiat yn uwy plesserus na phann y diskynneis i mywn i ard drws nessau unweith gyta uy trowsuss rownt uy pennglinieu, a syrthyaw i gysku.

Eithyr, tra yr oedwnn yn gwneuthur y petheu od hynn, beth a wnaeth Bloteuwed ydoed galw dross y hysgwyd, ak o du ol i wrych dyma dyn yn dyuot. Ak yr oed yn etrych yn guarwyd iawn, ynteu a'y wep uel llo. A sytynn myui a sylwedolais mai Gwion Rhwyni ydoed, y pel troetiwr!
"Och!" hepe ui.
"Och yn wir, eneit," hep eu. "Diolch itti, Bloteuwed, am dargfanuawt y Koui keu hwnn immi, kanys yr wyu weti bot yn darllen y ulog eu yssyd yn tynnu gwarth ar uyui a Pedr Krawts a phawp arall yssyd yn tim pel troet y Lloegrwys."
"Eithyr," hepe ui, "krap yr oedech, ak yn haedu pop geir."
"Na," hep eu, "yr wyu yn bel troetiwr o uri, ak heuyt yn hard a golygus."
"Chinny reckon," hepe ui. "Onyt Bloteuwed, onit yw hynn yn dy wneuthur yn boeth? Onyt wyt yn uy karu?"
A hep hi: "na ydwyu, Kymro, kanys keu yw pop bun, yn enwetik bunot y mae Gwytionn uab Don weti y kreu allan o lili'r maes, etc. Gwiojn Rhwyni yr wyu yn y garu."
"Onyt y mae y wep mal gauyr! A dwetyt y gwir, y mae yn waeth na gwep yr auyr yr wyu yn seuyll arni yr awron. Nit oes bot dynol a gwep mwy sarruk a hyll na y wep eu."
"Onyt," hep Bloteuwed, "y mae llawer o aryan gandaw."
"O," hepe ui. "Ar beneffits yr wyu i."
"Yn uniawn," hep hi.
Ak wetynn dyma Gwion yn kolli y lumpyn ak yn dwetyt: "Yr awron, llyma uy nial arnat, o Kymro Kanol."

A mal yr oedwn yn seuyll yno gyta uy trawt ar auyr a bath, eue a gymerod bel allan a'y gikkyaw atau yn hy. Eithyr, gwydwn ni oll pa mor wael yw y anelyat, ak eue a uethod o hanner kann llath, a'r bel a aeth i mywn i uaes parkio Morrissons. A minneu a neityeis ar geuyn yr auyr, a charlammu ymdeith, gann goti deu uys ar Wion Rhwyni a'y wep gwaeth na gauyr, a thyngu llw uot pop bun yn geu, neu, yn hytrach, uot pop bun yssyd weti y kreu o uloteu yn geu. Och o'r tristwch hwnnw!

Ond minneu a garlameis yn noethlymunn ar uy ngauyr trwy strydoed Kaer Seint, a myui a gyuarueis a Day Day a Mihangel Pontsteffan yn dyuot allan o Koui Karrek. A hwynthwytheu na dywedassant, "paham yr wyt yn marchogaeth gauyr yn noeth," kanys nit yw peth uelly yn ot yn Kaer Seint. Eithyr, hwynthwytheu a hepent: "Ha wr. Yr ydym am uynet i'r Tescos dau-dek-pedwar awr a prynu deugain kann o special brew. Eisieu ymuno?"

A minneu a es yn llawenn, kanys mae kwrw kryf, dau gydymdeith hoff cytun a gauyr yn lot gwell na bunot keu a pel troetwyr hyll o wlad yr Ysgowsdynyon.

6 o sylwateu:

Hep Anonymous Anonymous

Hi hi! Da iawn unwaith eto. Ond dwi'n meddwl mod in mynd i gadw'n glir o Koui Karrek o hyn allan - mae pethau od iawn yn mynd ymlaen yno...!

31/7/06 11:40 AM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Drwk gennyu gliguet am dy uystyat korfforawl--gobeithyau nat oes diurot parhaol. Diolchau, uod bynnak, am dy eirieu karetig!

A'r auyr ... gwnes uargenn gyta Koui mywn un o'r tauarnday yssyd yn hoffi kadw aniueilyeit yn y dy eu am ressymmeu dirgel. Ni ouynneis ragor, ond keueis bris da amdanaw, ak yr oed y gauyr yn ymdangaws yn happus digon.

A, uerch dienw uchot, yr wyt yn iawn mai petheu ryued a keu yssyd yn digwyd yn Koui Karrek. Yna mae rann uwyau o gymeryateu ffuglennawl yn hongyan allan, er engreifft, ac yn denu dynyon ffol i seuyll ar eiuyr er eu bodhat ...

3/8/06 1:04 PM  
Hep Anonymous Anonymous

Drwk oed clywet uot Blod gwedi ymddwyn mal shit tuag attat. Na phoener, kanys bun hanner kall ydyw (Gwydion a gauod y risĂȘt yn wrong). Blod y syd yn dall, yn wirionbeth ak gwedi colli ohonnaw ei marblis. Minneu a ryuedeis mal a allei y ffugbeth droi ohonnott i lawr. Minneu vygkywirdeb am karyat a uyd tuag atatt tra uwyf i vyw.

4/8/06 4:24 PM  
Hep Anonymous Anonymous

Drwk oed clywet uot Blot gwedi ymddwyn mal shit tuag attat. Na phoener, kanys bun hanner kall ydyw (Gwydion a gauod y risĂȘt yn wrong). Blod y syd yn dall, yn wirionbeth ak gwedi colli ohonnaw ei marblis. Minneu a ryuedeis mal a allei y ffugbeth droi ohonnott i lawr. Minneu vygkywirdeb am karyat a uyd tuag atatt tra uwyf i vyw.

4/8/06 4:25 PM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Ha, bersonn dienw; diolch am dy eirieu. Gwir, hanner kall (neu euallei chwarter neu un rann o seith kall) ydyw Bloteuwed, a haedei hitheu Gwion Rhwyni mal kymar idi, kanys nit yw eu onyt deu rann o un dek naw kall, ak heuyt yn dwat. Da yw uot rei yn uyg karu inneu!

7/8/06 1:28 PM  
Hep Anonymous Anonymous

This is very interesting site... Research rosacea Diazepam uv spectroscopy reverse mortgages lasik md in calgary A como cuidarse con el ejercicio fa fico Revlon cosmetics wholesale propecia Minivan deals http://www.party-poker-9.info about fioricet Black jack counting card in Terrell texas high school dance competition North kent family solicitors

26/4/07 10:50 AM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu