Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

6.9.06

Myui yn kouiaw hen raglenn ar S4K yn ymwneuthur a karyat

Hm. Wyu gweti uy nychryn. Wele, seu uy nychryn yssyd o herwyd kymeint yssyd o uunot yssyd eisieu darn ohonou, ak heuyt yssyd yn tynnu llunieu butr ohonynt y hunein ak yn y postiaw yma. Nit oedwn yn diskwyl hynn. Wyu angen mwy o gwrw, kretau.

Ak wrth uedwl am yr hurtni y mae bunot yn gwneuthur wrth geissyaw denu gwyr, medylieys yn uy penn am sut y gall hynn orffen mewn petheu keu iawn yn digwyd. Seu, er engkreiift, kouiwch y raglenn honno ar S4K ers talm, seu Bacha Di Hitheu Odi Ymma, Eneit. Raglenn waradwydus ydoed, mal Kinio Karu heb y dyunder rethregol. Neut, yn y kyulwaynaw ydoed Dilwynn uab Sion, gwr brawychus, mal kroes rwng Yspadaten Benkawr ak y map ydoed aruer kyulwynaw Ffalabalamm onyt yssyd yr awron yn ragolykhu'r tywyd. A ydych chwitheu'n kouiaw'r raglenn honn, gydymdeithyon? Yr oed uy medwl gweti y dileu o uyg kou tan hynn, onyt mae geirieu erotigeid Lheucu Lhuyd, Olwenn a'r Uerch a'r Llygateu Piws gweti y dyuot yn ol i ulaenn uym medwl. Och o hynny! Wyu angen mwyuwy o gwrw brau.

Uel hynn ydoed un riuynn notetik yn mynet, mi gouiau:


[Golykua: stiwdyaw drudtuawr S4K. Panelau pink a porffor. Kynilleitua weti y denu yno gann adewityon o diot a hwyl, onyt yr awron yn medwl y bot eisiau bot ryw le arall.]

LLAIS O'R NEU: Uonedigion a uonedigesseu, llyma ych arglwyd am y nosonn, Dilwynn uab Sion!!

[Daw Dilwynn uab Sion i mywn mal ebol bychan ar garlamm. Rei o'r kynilleitua yn kymeratwyaw, rei ereill yn wylaw yn hityl.]

DILWYNN: Ha wyr, ha uuonot, kroesaw i Bacha Di Hitheu Odi Ymma, Eneit! Llyma noson o uri i chi heno, tra bydwn yn keissyaw kymharu bun brytuerth gyta un o yn tri gwr praff, parot, yssyd, neut, yn yssu am gaffael bun idaw kysgu genthi. A nawr, llyma yn kystatleuwreik kyntau!

[Daw bun i mywn. Seu ydyw yn deneu ak yn gwiskaw llawer o golur ak heuyt yn gwisgaw ffrok slytti. Hitheu a att Dilwyn uab Sion, yssyd yn etrych arni mal ki hep y spadu yn etrych ar goes.]

DILWYNN: Wel, ha, uun bert! Beth ydyw dy enw ditheu?
BUN: Treisi wyu, eneit. Wyu yn dyuot o Kaer Seint yn Aruon, ak wyu yn gagyaw am wr praff i uy kynnal a gwneuthur immi deimlaw megis bun go iawn.
DILWYNN: Neut, yr wyt gweti dyuot i'r sioe ystradebawl gywir! Heno, Treisi, bydwn yn kyulwynaw tri gwr itti, ak er na uydi yn gwelet y gwepieu, byd reit itti dewis rodi dy hun i oual un ohonynt ar wyliau hynot i Aberdeugledeu, pa le y byd yn kysku genti.
TREISI: Och o hynny! Bydei yn wych, Dilwynn.
DILWYNN: Ie. Yuelly, llyma yn gwyr praff, gynilleitua!

[Wele y goleu yn mynet i uynyd ar dri gwr yn eisted mywn res tu ol i wal yssyd yn y kudyaw rak Treisi a Dilwynn. Y mae yn debyk iawn i "Blind Date", yssyd yn raglenn i'r Lloegrwys, eithyr dim digon tebyk idaw uot yn lenlatrat. Y mae y gynilleitua yn klapyaw/wylaw/taulyt i unuyd dann dynnu melltith ar drank kymdeithas.]

DILWYNN: Wele, Gwr Kyntau, dywet hawdamor!
GWR KYNTAU: Ha, Treisi.
TREISI: Ha, Gwr Kyntau. Llyma uy kwestiwnn itti. Seu y kwestiwn, pe bydwn inneu yn kaffael uyg gwaradwydaw gann urenin tramor, pa uath ar dialed y bydet titheu yn gossod arnaw?
GWR KYNTAU: Llyma gwestiwnn da, eneth. Wele, bydwn inneu yn kyghori yn doeth ak eu, kanys wyu yn uawredawk a doeth. Yna bydwn yn kaffael uy holl uilwyr i uynet ar y ol ak y hela eu mal Twrch Trwyth a'y hela i mywn i'r mor.
TREISI: Ww, wele, seu yw hynny'n swniaw'n wych, Dilwynn.
DILWYNN: Ie. Karia ditheu ym mlaenn, tra bydau yn keissyaw etrych i lawr dy dopp ar dy uronneu.
TREISI: Nachau, seu yr un kwestiwnn i Gwr Eil.
GWR EIL: Hawdamor, Treisi.
TREISI: Ha, wr. Wele, atteb y kwestiwnn, eneit.
GWR EIL: Wele, pe bydet titheu yn kaffael dy waradwydaw, yn gyntau bydwn inneu yn mynet at geffyleu y gwr keu ak yn y MALURYAW, kanys wyu yn KASAU KEFFYLEU. Ak yna bydwn yn mynet at y bagieu yssyd yn hongyan o'y ty eu ak yn y MALURYAW, kanys wyu yn KASAU BAGIEU. Yna bydwn yn taulu y uab eu i'r TANLLWYTH, kanys wyu yn KASAU MEIPION. Yna bydwn yn achosi ryuel mawr yn erbyn GWYDELOT, kanys wyu yn KASAU GWYDELOT.
TREISI: N...neut. Wele, ha Wr Trydyd.
GWR TRYDYD: Hawdamor, uerch brytuerth, tyred i mywn i uy myt hut ak lletrith.
TREISI: Ie, gweti itti atteb y kwestiwnn, eneit.
GWR TRYDYD: Llyma uy atteb: bydei'r gwr a wnaeth dy waradwydaw yn kaffael y droy gan myui i mywn i auyr, a byd y urawt eu yn kaffael y droy mywn i auyres heuyt, a wele bydau yn goruoti idynt rytio yn waratwydus am ulwydyn. Yna bydau yn gwneuthur rywpeth tebyk idynt hwy gan dewis aniueilyeit gwahanol e.e. eirth, pandas, kangarwyeit, velosiraptoryeit a Saeson. Yna bydau yn troy hwy nol i mywn i dynyon a byd y gwaratwyd a'y siom yn diruawr.
TREISI: Ym ... o'r goreu. Eithyr, onit ydy hynny braid yn drosytop?
GWR EIL: Kytunau.
GWR KYNTAU: Keu hi Gwr Eil; ti ydoed yr un a ydoed am lad pop Gwydel.
GWR EIL: Wyu yn KASAU GWYDELOT. Bratha ui, Gwr Kyntau, ak yn ogystal wele uy mot yn gwneuthur "W" allan o uy bysed i ardangoss mal yr wyu yn dihit o dy eirieu pitw.
GWR KYNTAU: Yn dy WEP, yn dy WEP, wrda.
DILWYNN: Wyr, wyr, hedwch, os gwelwch yn da.
GWR EIL: Kont.
DILWYNN: HEDWCH. Eithyr, seu yn karyaw ym mlaenn.
TREISI: Wyu gweti aghouyaw pa le yr oedwn.
DILWYNN: Dim ots ydyw. Wele, y gynilleitua yssyd gweti diskynn i gysku/llad y hunein. Gwna ryw peth i uyny neu dewis ryw un.
TREISI: Hyn a wnau yn llawen. Gwr Trydyd, wyt yn amlwk yn dewinn o allu a lletrith hynot. Pa hut uydet yn rodi arnau ui?
GWR TRYDYD: Seu uy hut: bydwn yn deuyndyaw uy hutlath HIR ak EFFEITHYAWL i dy bleseru, gan greu petheu e.e. bunot allan o uloteu, troy popl yn dylluannot ak yn y blaenn. Hyn yw uy hoff hobi.
GWR KYNTAU: Paham y bydet eisieu kreu merch allan o uloteu?
GWR EIL: Pwff.
GWR TRYDYD: Wele, da a gwerthuawr yw i dwyllaw Kymry Kanol gylibyl o e.e. Kaer Seint yn Aruon.
GWR KYNTAU: Gwaradwydus wyt! Och!
GWR TRYDYD: O leiau y mae gennyu ffon hutlath hit ak effeithyawl, tra uot gennyt ti brokynn bychan meint bys bach uy Nain.
GWR KYNTAU: Yn dy WEP.
GWR EIL: Wyu yn KASAU NEINIEU.
DILWYNN: Wyr! Wyr! Yr ydych yn troelli'r raklenn honn i ryw peth erchyll mal e.e. Gerallt Springwr. Keu yw eu. Uelly, Treisi, seu dy dewis o'r gwrda yr hoffet y gysku genti.
TREISI: Wele, y maent i gyt yn ot iawn, onyt yr wyu yn kytnabot uy mot yn hoff o hutlathau hiryon, a gann bot un Gwr Kyntau yn uach--
GWR KYNTAU: Och!
TREISI: --a gan bot Gwr Eil yn seicopath, dewisau Gwr Trydyd.
GWR TRYDYD: Llawennyd!
GWR KYNTAU: Gwaradwyd! Oy!
GWR EIL: Ha, wyr, nit seicopath wyu, ak ue ladau i unryw un a dywet yn gwahannol. Wyu yn KASAU RYWUN A DYWET YN GWAHANNOL.
DILWYNN: Da iawn, Treisi, dewis da etc. Wele, y rei y gwnest y troelli i lawr. Wele Gwr Kyntau, seu Arthur, gwr ffuglennawl a gyda chok bach!
ARTHUR: Hei!
DILWYNN: Seu y Gwr Eil, Eunissyen!
EUNISSYEN: Wyu yn KASAU DILWYNN UAB SION.
DILWYNN: A nachau Gwr Trydyd, seu dy dewis a'r un uyd yn kysgu genti ... Gwytionn uab Don!
GWYTIONN: Hahahahaha! Wyu gweti kuraw unweith etaw. Gwr hynot wyu i! Bydau yn kuraw'r byt i gyt gyta uy hutlath uawr! Hohohoho etc.!
TREISI: Gwae ui o'm genni! Pa beth wyu gweti y wneuthur?
ARTHUR: Ast hurt.
EUNISSYEN: Wyu yn KASAU GWYTIONN UAB DON.

[Y gynilletua yn sgrechyan ar y gwarth ak yn retek allan i uynet i wylyaw Unet Pump yn lle hynny, kanys y bunot yssyd yn uwy denyatol e.e. y uerch Lyugwyrd yna.]


Ak wele, dyna uy atgou ohono, a gwelau yn awr sut y mae'r gwr keu Gwytionn uab Don, yssyd erbyn hynn yn kytweithyaw a Gwion Rhwyni a Bloteuwed i uy nhrechu inneu bop kam o uym mywyt, yn kaffael i mywn i bop rann o keluydyt Kymru, hyt yn oet y raklenni really crap ar S4K-2. Och o hynny, och, medau! Och deirgwaith! Nit da yw!

4 o sylwateu:

Hep Anonymous Anonymous

A! Gwelau! Oun mentro yssyd arnatt. Och! Truenni o hynny. Da i dim yw oun. Onis wyt yn gwypot - ny allit nouyaw yn yr auon am yr oun o gaffael dy draet yn wlyp, ny allit ychwaith uarchogaeth os byd oun cotymu odiar y keffyl arnatt. Oes oun arnatt ymlwypro ar draws y fford? (rhac oun itti caffael dy dwlkio gann y Twrch Trwyth!) Bechot yw am hynn.

Medylieis dy fot yn wr o'r oesoed kanol yn y gwir ryw, yn dewr a chyta y gwypotaeth yssyd i cymryt y uerch. Euallei, nyt keu myui, onyt ti yssyd keu (neu 'gay'). Ny dealleist dysgeitiaeth Lewsyn h.y. 'nys daliwyt na hyd na merch erioet gan oun'.

Pann yn gneut penderfynnu cofieu... Os wyt gwr gay, kymer kystadleuyd rhiu un (Lheuku Lhyut).
Os wyt gwr keu, kymer rhiu deu (Olwenn).
Os wyt Kymro go-iawnn, a gwir ryw ytwytt, kymer rhiu tri, yr un yssyd yn y cnawt yn well na'i llun* (a nyt vice-versa, mal yr awgrymod rhyw ynfyttyn!)

Rhyd itti dy dewis. Derbynniaf inneu fy nhynget waeth be y bo. Ny fyd dial. Ouer yw oun, ouer yw dial heuyt. Bywyt yssyd yn rhy fyr. Eunissyen nyt ytwyu a chwarae teg, Kymro, ti ytoed fflyrt dall oreu uy mywyt. XX

y uerch a'r llygeit piws

*Kaffael uy nhemptio yr wyu i eisted ar y ffotakopiwr a danuon itti y tystiolaeth

7/9/06 12:06 AM  
Hep Anonymous Anonymous

Ar drywyd y uerch a'r llygeit piws...

Gweti kael tip uot merch din noeth gweti kaffael ei gwelet yn reitio ei cheffyl heibiaw y kastell yng Nghaer Seint. Bethan Gwanas etaw, heb myui, ar ei teith i rywle 'au naturelle'.

Onyt nyt pen-ol merch Tom ytoed o gwbwl. Gwydus yn iawn, llawer mwy lluniaid ak atyniadawl ytoed. A minneu mal Garmon yn ymguddiaw yn y kyll, yn y dircel mal petai, gweleis y uerch yn ymtroi ei phenn. Ont pwy ytoed??? Nyt Gnawas ont rhyw uun a ymdebycai i uerch Gereint, y Uari Lyuwyrd.

OW! Datblyciat! Reit immi dychwelyt wrthat. Shit... mynet y mae yn gynt na'r gwynt... ue'i kolleis!....shitbeth!!! Blin wyu. Nit yw y Robin ymddiriedawl a werthpwyt im gan y bachgen Del yn ddigonawl yn ei gyulymder i ddal y Dwmplen malwoten. Shit!Shit!Shit!

Pop amser yn keisiaw dy helpu

Inspektor Kraff

8/9/06 9:45 PM  
Hep Anonymous Anonymous

[color=#473624][u]
Hi,

I'm a student from Israel.

I have to analyze how much time someone spend on internet.

There are websites which are a guilty pleasure, but there are [url=http://chileedu.com] websites[/url] which only have a visits duration of 40 seconds.

I would like to know how much time do you spend on internet (day/week/month).

Thanks for your help!

Debi
[/u][/color]

17/5/10 9:55 PM  
Hep Anonymous Anonymous

Hallo.
Ich mochte mit Ihrer Website kymrokanol.blogspot.com Links tauschen

9/9/10 4:24 PM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu