Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

22.8.06

Uy ertheigyl hynot ydoed yn ryw kylchkrawnn sauonnawl

Och! Gweti deffraw yr wyu y bore hwnn gyta dim kou o'r wythnos dwythau. Kouiau uynet i geissyaw gwrandaw ar y koreu meipyawn yn y balleu uawr bink ar y dyd Satwrn, onyt methu a mynet i mywn kanys mor chwil yd oedwn. Uelly, myui a euthum i'r bar, a phrynyaw gwytrynn o'y kwrw doji am deir punt, ysywaeth ak och o'r gwaryant hwnnw. Eithyr, wetynn, y mae yn fuzzy mal gwallt dirkel Gwytionn uab Donn. Kretu yr wyu immi geissyaw mynet o gylch Abertaui yn keissyaw kanuot lle ydoed yn gwerthu kwryu, eithyr y maent oll yn llwyrymorthotwyr yn Abertaui, ydynt, a myui a oedwn yn goruot torri i mywn i Spar a dwyn potel dwy litr o'r Uellten Wenn. Yna, tywyllwch.

A nachau, myui a deffrois beth orieu yn ol mewn ffos yg Kaer Seint yn Aruon, gyta baryu hir (meuyl arnaw), dim esgitieu, krys T yn dwetyt "Myui a euthum i Glwb Hoywon Kaer Dif a'r hyn oll a geueis ydoed y krys T gwaradwydus hwnn", a rif ffon Heled Kynwal ar uyn llaw. Dyna ydoed sesiwnn, uyg kydymdeithyawn hoff! Uelly gwnn y bydwch yn madeu immi pe nad yskriuennwn geink hiruaith hediw, eithyr rydwyu yn gwneuthur mal y gwna Aruon Wynn, seu ailgylchu uy hen syniateu.

Llyma, yuelly, yr ertheigyl yr yskriuenneis pan oedwnn yn yr eisteduot, ak a gyhoedwys yn y blwydiatur Dim Lol. Yr wyu yn diolchgar o'r mwyau i Ray Dyota am uyg kyhoedi. Llyma uersiwn uwy hep y dorri o'r ertheigyl hwnnw. Prynnywch Dim Lol! Da yw, eneit.

--KROESAWYAT I'R EISTEDUOT GANN Y KYMRO KANOL--

Ha, wyr. Neut, eisted yd oedwn treigylgweith ymywn tauarn yng Kaer Seint yn Aruon, mal yr wyu bronn pop prynhawngweith, gyta kwrw melys brau yn uy llaw, pann daeth i uy ymyl wr ryued iawn, yd oed yn siarat mal ydoed o wlat estronn. A llyma arnau diruawr loes ac oun.
“Shwmae, gley,” hep eu.
“Pwy a wyt, wr?” hepe ui, dan gudyaw tu ol i uy kwrw.
“Eneit, dyuot o’r Abertaui yr wyu, spo,” hep eu yn llawen, ac yn syth sylweis mai Hwntw yd oed, a mwyuwy ydoedd uy oun, kanys ot ynt hwy. Nit mal Kouieu kall—ni deallant hwy peth yw peth. Eithyr yr Hwntw hwnn a brynnod im beint, ac och! mawr ydoedd uy llawenyd.
Yna hep eu, “gweleis dy weulog di ar y Gwe Uyt Eang, gley, yn dywetyt dy hanessyon di, a mal yr wyt yn dra uedw bob awr o’r dyd. A medylyieis pa mor brau uydai dy gael ti i dod i lawr i’r Eisteduot Genetlaethawl ymma yn Abertaui a yskriuennu ar gyuer yn kylchkrawnn ninneu pa sut y tybiei yw’r wyl. Spo.”
Ac hepeu i, “Eisteduot, eneit? Nit wyu i weti mynet i’r uath le erys tro byt, kanys pellennik yw’r tauarndai odi yno, a hir ydynt y kiwiau i uynet i wrandaw ar Giraldus Llwyd Owein yn traethu yn digriuawl yn y Palleu Len.”
“Eithyr, spo,” hep eu, “kanuydwch bar ar y Maes yn awr.”
Ac wele, mawr ydoed uy llawenyd.

Ac uelly, gydymdeithyon hoff, y dou a’r kyuarch hwnn o’r maes yn Abertaui. Ni soniau i am uy nhaith erchyll i lawr o Kaer Seint yn yr X32 Traws Kambrya, kanys diruawr drwc ydoed, a mawr ydoed y chwytu a’r ysua am wagyat. Eithyr yn awr soniau am ual yr eistedau yn y tauarn-uar ar y Maes yn yuet kwrw drutuawr, ac yn tybyaw pa mor hir a wnaiff uy aryan barheu kynn i uy mokket uynet yn wak; och o’r gwaryaw.

Onyt brau iawn ydyw’r Maes hwnn, a’r dreu Abrtaui, yssyd yn uawr ac ot, eithyr gyta llawer o dauarndai; da yw. Onyt mae angen, yn y kylchkrawnn hwnn, eneit, immi son am betheu keluydydawl Kymreik, a mawr yw’r meuyl immi nat wyu etaw weti gosot troet ody mywn i’r Pauiliwnn. Neut keissyais, ar y prynhawngweith kyntau, onyt Stywart kau a dechreuawd ymguathrach a mi, a dywedyt na chawn uynet i mywn ar ganawl y dawnsiaw gwyryon, kanys Dawnswyr Mon oedynt ar y llwyuein a mawr uydai’r amharraeth pe yr elwn inneu i mywn yn uedw gaip. A minneu a alwais eu yn enweu, kanys kok oyn ydoed, yn attal uy nyskeidyaeth diwylliannawl. Uelly yn ol a minneu i’r tauarn-uar, a ffoniaw uy nghydymdeith hoff Day Day ar uy telytelyffon symudawl. Day Day yssyd yn uoi iawn, ond yn ffemynyd ac yn alcoholyd. Seu yn cyuathrach:

MYUI: Ha, Day Day. Dyuala pa le yr wyu.
EU: Ni wnn. Dywet.
MYUI: Eneit, yr wyu yn yr Eisteduot Genetlaethawl, yssyd yn Abertaui.
EU: Och o’r trigyaw! Yno y mae gwlat yr Hwntw. Keu ydynt, a’u haraeth yssyd mal rheiny yn Popol y Kwm. Och o’r llitiogki yssyd arnau drossot!
MYUI: Kytunau, gyueill, eithyr mae gandynt ymma lawer o kwrw melys brau, eneit. Eithyr drutuawr yw.
EU: Kwrw? Neut, kwrw melys brau? Onyt ar y Maes? Och! Oy!
MYUI: Kywir. Eithyr nit ydynt y Stywardyeit keu yn uy gatael i mywn i pyruio dros y dawnswyr. Wele, llit oed arnau.
EU: Meuyl arnat, Kymro. Na sylla ar y bunot megis gwrthrycheu rhywiawl, kanys popol ydynt wedy’r kyuan, ac yn haedu ennyn dy parch.
MYUI: Ond beth, eneit, os ydynt y sgertieu yn hynawt uyrr a rei dim yn gwiskaw y bra?
EU: O’r goreu, yna mae’n OK, kanys eu bai hwyntwy ydyw wetyn.
MYUI: Diolch, Day Day. Pa beth yr wyt titheu’n wneuthur, uelly? Pa sut mae hen wlat yn tateu, Kaer Seint yn Aruon?
EU: Ni wnn. Kanys doe, mor uedw yr oedwn, y diskynneis i kysgu yn keuyn ryw uan, a’r bore hwnn yr wyu wedi deffraw yn yr Arianninn.
MYUI: Och. Eithyr y maent yno’n siarat ieith Ynys y Ketyrn, ie?
EU: Kywir. Buom yn kanu Sospan Uach, a myui yn angkouiaw y geirieu, kanys dal yn uedw yr wyu.
MYUI: Oy, Day Day, mong yr wyt yn wir. Heuyt, mae uy kretyt ar uy telytelyffon ymronn yn dim kanys yr wyt yn Arianninn a minneu yn Abertaui, a pell ydyw’r nayll o’r llall. Llitiawk yr wyu, kanys yn awr llai o arian yssyd gennyu i brynnu kwrw. Dos ymdeith. [Hongiau i uynyd.]

Gobeithiau y byd Day Day yn iawn, eithyr mae weti bot mywn gwaeth bikleu yn gorffennawl. Eithyr ystori am gyunot arall yw hwnnw.

Uelly, gydymdeithyon, beth yr wyu weti dysgu o uy prouiat yn yr Eisteduot yn y dydieu kyntau hynn? Yn wir, seu tri pheth:

KYNTAU: Y mae y kwrw ymma yn UELYS onyt yn DRUTUAWR. Kanys, eneit, mae MONOPOLI gandynt ar y MAES.
EIL: Y mae STYWARDYEIT yn KEU.
TRYDYD: Klywau uot KOREU MEIPYON yn rai gwerth y klywet, kanys GWYR DEWRYON ynt hwy yssyd yn gweithyaw yn ystot y dyd, yn YUET yn ystot y prynhawn, ac yn kanu yn ystot y nosweith. Ac yna, euallai, yuet mwy. Wele, dyma da wyr syd yn kynnhessu uy kallon, ac ue wnau ymdrech i uynet i wrandaw arnynt, eithyr euallai byd rheid immi gudiaw potel o Brain’s Breat ou Heauen dann uy nghot, kanys hiryon yw’r kystadleutheu hynn, mi a glywau, a mawr yw’r mwydraw gann y kyulwynwyr rhwg y koreu. Och y diruawr disgwyl hwnnw.

Uelly, gydymdeithyon, gobeithiau uy mot weti ych kymorthwyaw i deall yr Eisteduot hwnn yn well, kanys gwyl dyrys yw, gyta, yn wir, popol ryued mywn gwisgoed gwyn, glas a glas arall, yssyd yn ot iawn, ac weithieu kretau mai medw yr wyu (kanys medw yr wyu yn aml, iawn, iawn), onyt ymdengys mai rodi kadeir i uard o uri y maent, ac nit ellyllon o uy nychymyk penblethok. Eithyr, gwell uydai gennyu i gael ffri bar am weddyll yr Eisteduot na chatair yssyd dim yn gwedu gyta gwedill uy notreuyn yn ol yng Kaer Seint. Wyddoch chwitheu uy mot yn dipynn o uard uy hun? Na, eneit, namyn dewin y gynghaned wyu. Wele: “Êl megys mêl yn uy mol”. Och, o’r sayn kytpwys akkenawg!

6 o sylwateu:

Hep Anonymous Anonymous

Ys ynfyttyn Day Day, kanys pe bai gall (megis yr wyt, Gymro Kanol, yn honni y bo pob eneit ag y sydd yn trigaw yg Kaer Seint yn Arfon), ac yntau'n coleddu syniadeu ffeminyddawl a gwleidyddawl kywir, ni bai ar yr union pryd yn gwaradwyddaw gwyr y Deheubarth mewn modd sarhaus, onid hilyawl. Mefl ar ei farf (a thybbiaw ei fod yn ddigon hen i siafiaw).

22/8/06 11:18 AM  
Hep Anonymous Anonymous

Ha, Kymro!

Ffasineted wyu gyta dy chwedleu hynot. Minneu yssyd yn yssu am caffael rhoi wynep i'r cymeriadeu tra atyniadawl. Gweti bot yn Koui Karrek yn eich olrhain ond weleis i mohonnoch. Gweti bot yn yr Eisteduot hitheu ond heb d'adnapot(Gwell gennyf dy gyfarfot na Glyn Gall y brodor o Ulaeneu, cannys mwy gwrawl a gwell Kymro wyt).

Ysywaeth, dyheu yr wyu am gael gwelet sut un wyt ti, Kymro, a Day Day annwyl ac yn arbennig dy gydymeith "a'r offeryn mawr". I uodloni merch nwydus (os galli di) wnei di ardangos llun ohonnoch y trigwr? Fe ystyriau inneu anuon yn ôl attat uy llun inneu mewn sgert fyr (uel yr wyt yn hoffi) a thop "dau rimyn edafedd".

XXX y uerch a'r llygeit piws

22/8/06 1:00 PM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Och ak oy, uerch a'r llygeit piws! Wyu yn hoffi torryat dy jib. Gwir wyt, neut, yn dwetyt uy mot yn gallach na Glynn, kanys wyu yn gwypot sut i uerwi wy yn barot. Eithyr, uel aruer, wyu yn koginyaw ready meals o'r Co-Op.

Onyt, ysywaeth, nit wyu yn hoffi danuon llunieu ohonou uy hun dros y ryngrwyt. Mae eu ryw peth i wneuthur gyta achos llys beth blynydoed yn ol. Ystori hir. Beth bynnak, euallei y gallau ouyn i Day Day, yssyd yn o -lew am dynnu llun, i wneuthur llunieu ohonom ill tri i'w danuon attat. Eithyr, bydant yn llunieu eithau krap, kanys siglaw mae y llaw eu ar ol noson hir ar y kwrw.

Onyt os am uy kyuaruot yn kignoeth, wele di y KYSTATLEUAETH uchot!

31/8/06 9:16 AM  
Hep Blogger Kymro Kanol

Ak i'r hwntw uchot: ymdiheurau am ymdygyad Day Day a'y datganyateu hiliawl. Mong yw eu o'r rad uchau.

31/8/06 9:17 AM  
Hep Anonymous Anonymous

Genial brief and this mail helped me alot in my college assignement. Say thank you you on your information.

11/6/10 4:36 AM  
Hep Anonymous Anonymous

Nice post and this post helped me alot in my college assignement. Thank you on your information.

12/8/10 12:08 PM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu