Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

14.9.06

Minneu yn datgann yr ennilluun, a mawr lawenhau odi hynny

Wele, yn yr wythnos diwethau yr wyu gweti bot yn kaffael uym bodi gann yr holl uunot hynn yn ymaulyt trossou. Diolch ichwi gyt, uunot da. Mal dim arall eryoet immi y broui ydoed, a mawr ydoed uym braw onyt heuyt uym brolyaw, kanys y uot yn dangos pa sut kymeint o wrda a styt yw y Kymro Kanol, seu myui. Gwnn uot ryw resswm paham y mae holl enethot Kaer Seint yn llewygu pan y maent yn seuyll nessau immi yn y tauarn. Eithyr, gweti hir bendronnyaw, diskynn a wneis ar ganlynyat, a'r uun honno yssyd am ennill y gystatleuaeth wych, a kaffael kyule i uynet am diot gyta mi (hyhi yssyd yn talu, eneit). A'r uun honno? Wele, katwau y syspens trwy dywetyt pwy yssyd yn dyuot yn trydyd ak eil. Kreulon wyu.

Nachau, y drydyd, seu LHEUCU LHWYD. Da wyt, Lheucu, a'th sillauu yn debyk iawn i Gymraek o'r unuet ganriu ar bymtheg, a da yw hynny (eithyr dim mor da a Kymraeg Kanol). Onyt nit wyu yn hoffi'r geir "ketor". Term ffermwyr iueink yw, a keu a swnllyt ydynt hwynthwy yn y dauarn liw nos pan wyu i a Day Day a Mihangel yn keissyaw slwmpyaw'n anymwypotol yn y kornel. Uelly, trydyd wyt, onyt diolch am dy gynnik.

Yn eil, wele, ak agos ydoed hynn, Y UERCH A'R LLYGEIT PIWS. Och ohonot, uun ber, kanys wyt yn siwr o uynet yn bell gyta dy garyat at ueirch a Kouieu medw, onyt y tro diweythau immi uynet yn noeth yn gyhoedus ydoed mal sialens gann Mihangel, i uynet yn uonllwm borkyn i'r Uenei ger Kaer Seint. Oer ydoed, onyt gwaeth na hynn ydoed pann y daeth bws yn llawn, neut, o uunot penuelyn o Swetenn oedynt yn chwaray pel uoli ak yn hard bop un. A gwelet a wnaethant uyn twlsyn gwywedik (o achos y DWUYR OER, gydymdeithyon), a mawr ydoed y chwerthin, a uym meuyl a gwaradwyd inneu. Yuelly, nit tydi yssyd yn ennill, Uerch, eithyr y mae'r llun ohonot yn dinoeth yr awron ar uy mur yn uy ystauell wely, yn y man lle bu'r poster o Abbi Bronmws, a oed gweti rhwygaw o achos gor-deunyd.

Onyt, gydymdeithyon, pwy yssyd yn ennill y prynhawngweith hwnn? Wele, ac och a wiw, seu ANTI MELYNN A'Y CHAP NELI yw hyhi, o achos idi ennill kalonn y Kymro a'y bardoniaeth digriuawl. Ie, gyueillyawn, bardoniaeth ber yssyd yn da gan y Kymro bron kymeint a kwrw, yn enwedik bardoniaeth uutur ar uytr (hoho mawr uy chwerthin ar y chwaray geirieu--yn dy wep, Giraldus Llwyt Owein). Diolch itti Anti Melynn (er, gobeithyau nas modryp hen wyt ymywn gwiryoned, yr wyt yn byw ar benn dy hun a chasglu kathot a gwneuthur SwDoKw tra'n gwylyaw Hip neu Skip) am dy gyuranyat eithryatol, a llongyuarchyateu ar dy gamp. Os gweli di'n da, yr awron danuona a) dy enw a llun ohonot, a b) dy uanylyon bank (neu dillat isau o sauon) i:

Y Kymro Kanol
Wrth y kylchkronneu megis "Gwres" a "Kota myui i uynyd"
Gwerth Gwlan
Kaerseintynaruon
LL55 1KK

neu gelli gatael hwy euo Deui y barman yn yr Anglesey Arms amdanau. (Ymdiheuryateu nat wyu ar y uoment gyta ty go iawn i uyw yndo. Bu i uy fflat loski i lawr yn diwedar pan y bu Day Day yn arbroui gyta rodi petrol ymywn mikrodonn, a mawr ydoed y loes gweti hynny. Bydau yn symut i mywn y blasty krand yn uuan, uod bynnak, a hwre uawr o achos hynny. Dim onyt i mmi ennill y Loteri dyd Satwrn, a bydau yn iawn. Diolch itti, Dail Gwyntwn, am wneuthur uyg gobeithyawn yn realiti, tydi a'th ffyrd hoyw, hoyw.)

Pan gau dy uanylyon, Melynn, bydau yn dywetyt pa bryt i gyuaruot yn Koui Karrek, a pa beth yr wyt i wiskaw. Etrychau ymlaenn i welet dy gap Neli (beth bynnak diawl ydyw hwnnw), a titheu danno!

1 o sylwateu:

Hep Anonymous Anonymous

Hoffwn longyfarch Ani Nel ar ei llwyddiant, ond yn fy marn i y uerch a'r llygeit piws oedd wirioneddol yn haeddu'r wobr gyntaf. Cytunaf hefo hi pan mae hi'n dweud mae ofn sydd arnat Gymro Kanol...

15/9/06 4:48 PM  

Ro dy sylwat immi

<< Adreu