Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

27.2.07

Myui wyu yn dychwelyt o uyg kuduann ym pa le y bum yn lloches rak yr hedlu am dra hyt

Ymdeith a thitheu, Gwytionn uab Don, y gwr keu gwaradwydus! Myui yssyd pieu y weuann honn, a nit titheu a'r letrith keu. Myui--ie, gyueillyawn, wyu y Kymro Kanol, ak nachau wyu gweti dychwelyt o uyg kudduann anreibus.

Och, eithyr angenrheityawl ydoed uyg kuduann, kanys am sawl mis bum, gyta Day Day a Mihagel Pontsteffan uyg kydymdeithyawn medw, yn ehedek rak yr hedlu! Keu ydoed. Seu yn keink:

Day Day prynhawngweith ydoed yn eisted yn Kaer Seint yn Aruon, yn tauarn leawl idaw, yn yuet y seithuet peint. Ar hugein. Wele, medw ydoed, a kann bot y Kymro Kanol, kydymdyeith kywir idaw, a Mihangel, kydymdeith ot ak anelwik idaw, yn kysku o achaws gormot o Carling K2, eue a etrychawd ar y teledyd. Ak wele, S4K yd oedynt yn dangaws hysbysep am raklenn newyd.

"Nachau," hep Day Day, "S4K ydynt yn dangaws hysbysep am raklenn newyd". Aml yn dywetyt yr hynn oed yn amlwk ydoed Day Day. Mong yw eu o'r herwyd.

A nachau, ynteu a edrychawd yn uanylach, a gwelet mai son ydoed yr hysbysep am raklenn o'r enw Y K-FFACTOR, pa le ydoed S4K yn chwilyaw am y KYMRO a'r lleis goreu, i uot yn seren newyd y byt pop, ak ymdangos ar raklenni hynot mal Unet 5 ak wetynn gatael i bobol sylwedolyaw pa mor anhaletnawk ydynt mewn gwirioned ak o'r herwyd diulannu yn radol o wybydyaeth. A mawr ydoed kyffraw Day Day o herwyd hynn (kanys reit yw deall uot Day Day yn dychmygu may eu yw ailymgorphoryat Twm uab Sion y kantor hynot o'r Deheu yssyd yn kanu petheu mal "Wi Wi Wi Blodeuwed" a "Glaswellt Glas Glas Uyg Kartreu"--er bot Twm uab Sion dal yn uyw). A Day Day ydoed yn wir eissyeu kystatlu ak ennyn klot.

Ak eue a'n dephrod, a dywetyt y uot am inni yn tri kystatlu yn y rowndieu kyntau, oedynt yn kaffael y kynnal yg Kaer Seint y trannoeth.

"Och Day Day," hep y ui, gweti dephraw. "Onyt wyt yn kouyaw pan wnest titheu awgrymu wythnos diweythau inni ymdangos ar y raklenn keu Tipyet-Eu, onyt inni uynet ar goll ar yn fford i Bontrytuendikeyt, a diwedu yn chwytu'n dilyw mywn tauarn yn Llanystuntwy?"

"Ie," hep Day Day, yn ymdangaws yn doeth DOETH, "onyt gwahanol uyd y tro hwnn."

A gann yn bot ninneu yn uedw ak ar uin kael yn taulu allan o'r tauarn beth bynnak am dorri'r kyureithyeu am noethlymunrwyd mywn lle kyhoedus, dyma myui a Mihangel yn kyttunaw.

A yuelly, y diwyrnot wetynn, wele Day Day a Kymro Kanol ak heuyt Mihagel Pontsteffan yn kyrrhaed ateilat Barkut yg kyrionn Kaer Seint ar gyuer y rownd kyntau o K-FFACTOR (neu, mal ydoed yr is-deitl, DELW KYMRU). Ak wele, gweti diskwyl ymywn kiw am naw awr ar hugein, ak yuet pymptheg peint o kwrw auiach S4K yn y bar, ninneu a gawsom yn galw i mywn i gaffael yn gwrandawyat.

Wele, y tri ohonom euthum i mywn ar yr un pryd, gann inni uot mywn penpleth. A minneu a weleis y tri barnwr, seu oed y barnwr kyntau yn wr hynaws a gwallt aryan gandaw ak neut un o arweinwyr a kerdoryon blaenllawyau Kymru, seu y enw ALWYNN UAB WMPHRE. Ak yn eisted yn y ymyl, yr eil beirnyat, ydoed yn uun uawr ak idi wallt dros bopmann, seu y henw KARRYL UERCH HARRI UERCH SION. Ak yn trydyd, och ak oy, nep llei na gwr ak idaw krys T tynn, tynn a klos uynyd at y gesseilyeu, seu y enw SIMEON KAWL. A mawr ydoed y llit ar y gwyneb ynteu.

A mal hynn a oruk y digwydyat. Day Day yssyd yn mynet gyntau:

ALWYNN: Ha, wr medw. Pa uod wyt yn kaffael dy enwi?
DAY DAY:Wyu Dauyd Dauides, eithyr Day Day wyu i bawp yssyd yn uy napot, yssyd yn kynnwys, yn Kaer Seint yssyd yn gartreu immi, yr hedlu a social services.
KARRYL: Och deirgweith, un arall. A pa beth wyt titheu am ganu inni? Mae uy krynodisk newyd allan.
DAY DAY:Diolchyateu itti am ouyn im, Karryl uerch Harri etc. Wyu am ganu Agylion gann Rhywberth uab William.
ALWYNN: Och ak oy y klasur hwnnw am y kanuet tro hedyw. Dechreuet eu.
DAY DAY: Mi a wnau hynny.
[yn kanu:]
Eistedau inneu a diskwyl
A oes agel yn ystyried uy ffawd inneu eneit?
Ak a ydynt hwynthwytheu yn ymwybodawl
O'r lleuyd yr ydym ninneu yn mynet
Pan ei bo, och o'r herwyd, yn llwyt ak oeruelawk?
Ak yn wir yr ydwyu yn dywetyt wrthych yr ydwyu gweti kaffael ar ddeall
Y byd iachawdwryaeth yn gatael i'w hesgyll hwynthwytheu datblyku
A phan yn kysku gennyu yn uyg gwely yr wyu
Ak y mae medylieu yn ehedek trwy uym penn
Ak yr wyu dann yr argraph uot karyat, och o hynny, yn uarw
Karu ydwyu inneu, yn lle hynny, agylyon!
A trwyddaw---
SIMEON: Distewet! Digonn na chlywau uwy o'r torllwyth hwnn ettaw. Keu ydoed, mal kan awr o Sion ak Alunn yn kanu hittyeu goreu Tryawd y Koleg. Roedwn yn chywtu mywn braw a gwarth ar ol y llinell kyntau. Wyu yn adnapot kotieu glaw yssyd a mwy o dalent na thydi. Gwna ditheu daiony i'r ras dynol trwy uynet gartreu a llad dy hun mywn fford effeithyawl, megis gossod dy penn i mywn i'r peiryant golchi, a gwasgu "spin cycle".
KARRYL: Wyu yn kyttunaw ak unryw peth y mae Simeon yn ddywetyt. Mae uy krynodisk newyd allan.
ALWYNN: Pam wyt yn dywetyt hynny bop eilyat?
KARRYL: Neut gwir yw eu eneit. Mae uy krynodisk newyd allan, a da yw.
ALWYNN: Na, eithyr yr un hen ganeuon ynt y mae pawb gweti diulasu a hwynthwy ers 100000000 o ulynydoed.
KARRYL: Ak?
SIMEON: Dim ots am hynny, och. Day Day, dos ymdeith y mong mongllyt. Nessau!

Day Day yssyd yn mynet ymdeith, nit yn drist, kanu ry uedw ydyw eu i deimlaw emossiwn uwyach. Y nessau i uynet yw myui.

KARRYL: Ha wr golyguss a praph. Wyu yn barot yn medwl mai tydi yw yn Delw ninneu. Wyt gymeint o wr gwrawl! Wyu yn dy garu.

Na, mywn gwirioned, nit hynn a dywedod hitheu. Hynn, yn hytrach, a dywawd hitheu:

KARRYL: Pwy wyt titheu, a paham y mae kann o Bragyat Arbennik yn dy law? Mae uy krynodisk newyd allan.
MYUI: Wyu Kymro Kanol. Euallei ych bot gweti gwelet uyg gweuann. Wyu gyta kann o Bragyat Arbennik kanys rat yw eu onyt yn naw y kant, ak yuelly yn uyg kaffael yn uedw uedw yn chwim chwim. Ak nit wyu am brynu dy grynodisk newyd, kanys byd petheu mal Peiryant Uideo a Kaer Aryanrhot arnaw, ak wyu gweti y klywet naw miliwn miliwn o weithyeu erys idynt dod allan, ak oss klywau hwynt ettaw, au yn wallgou a llad Day Day.
DAY DAY: Oy! Paham myui?
MYUI: Kanys mong wyt, ak y personn agossau.
DAY DAY: Digonn tek.
ALWYNN: Distawet. A pha beth wyt titheu am "ganu" inni, o Kymro medw?
MYUI: Wyu am ganu Bwryet uy ast i uynyd gann y Prodiji.
SIMEON: Och, uy ffeuryn.
MYUI: [yn kanu:]
BWRYET UY AST I UYNYD
BWRYET UY AST I UYNYD
BWRYET UY AST I UYNYD
BWRYET UY AST I UYNYD
BWRYET UY AST I UYNYD
BWRYET UY AST I UYNYD
BWRYET UY AST---
SIMEON: Och ak och ak am y trydyd tro och! Nit ers immi gloy uy hun i mywn i uyg kar a kaffael y ratio yn sownd ar Champion FM y klyweis y uath sothach. Oed eu mal kaffael Sharonn Osbrwyn yn sgrechyan tra yn uyn trywannu drossod a drossod yn uy llygeit gyta con traffik tra bot kant a mil o uorgryk barys yn knoi ar uyg keillyeu a chor KF1 yn kanu Rydm y Dawns yn y keundir. Eithyr tipyn bach gwaeth.
MYUI: Kont wyt, Simeon.
SIMEON: Ak?
ALWYNN: Digonn! Namyn myui yssyd yn digonn kall a phwysik ymma i gatw treuyn. Kymro? Wyt yn didalent, ak uelly kei uynet trwod i'r rownd nessau inni allu chwerthin uwyuwy arnat.
MYUI: Wir yr?
ALWYNN: Na, nit mywn gwirioned. Wyt yn uphernawl. Dos ymdeith. Nessau!

Ak wele Mihangel Pontsteffan yn dyuot i'r llwyuann gann auael yn y offerynn diruawr mywn dwy law. Ar welet hwnn mae Karryl a'y llygeit yn chwyddaw mal sosseri.

KARRYL: Kymro a'm kar! Dyna ichwi offerynn.

Mae hitheu yn gwneuthur pynieu gwael megis hwnn am seith munut kyuan, ness i Alwynn rodi bag plastik tros y phenn a gwneuthur idi lewygu. Yna mae eue a Simeon yn y kloi hi mywn kwpwrd yn y gornel tan y byd hi'n westei arbennik ar Kan i Kymru. Nachau Simeon ak Alwynn yn dychwelyt i'r bwrd.

ALWYNN: Ha, Mihangel. Wyt am ganu inni, ynteu a ydym am gaffael hedwch?
MIHANGEL: Kanu.
ALWYNN: Och o Duw anrugarawk!
SIMEON: A pa beth ydwyt am oruoti inni y glywet?
MIHANGEL:Hawd yw itti dywetyt hynny, ak i minneu atteb. Wyu am ganu Mi dicon venal, ma a donna bella o'r operra Toska gan Giacomo Puccini.
ALWYNN: N...neut. Onyt yw'n well gennyt ganu Barbie Girl ynteu 2 Become 1 neu ryw peth kyffelyp mal pawb arall?
MIHANGEL: Na uynnau.
SIMEON: Kana, ynteu.
MIHANGEL: [yn kanu mywn lleis perffeith mal Brynn Deu Uynn:]
Mi dicon venal, ma a donna bella
non mi vendo a prezzo di moneta.
Se la giurata fede
Devo tradir
Ne voglio altra mercede.
Quest'ora io l'attendeva!
GiĆ  mi struggea
L'amor della diva!
Ma poc'anzi ti mirai
Qual non ti vidi mai!
Quel tuo pianto era lava
Ai sensi miei---
SIMEON: Digonned! Roed hynn megis kar yn gyrru dross gwywer ar y fford, yna mynet yn ol drossti, ak yna mynet unweith ettaw dim onyt i wneuthur in sikir bot yr aniueil yn uarw, traheu bot ratio y kar yn chwaray Iona ak Andy. Keu, medau!

Ar hynn, wele Mihangel yn llityokki, kanys mawr yw y lit eu pann uo popol yn dywetyt y uot mal Iona ak Andy. A nachau eue, kynn immi allu y stoppyaw, yn rhuthraw at y bwrd a tharaw Simeon Kawl tross y penn gyta y offerynn mawr, hir. Wele Simeon a syrthiawd a penn torredik yn wylaw mal bun.

ALWYNN: Gwnn y dylau stoppyaw hynn, onyt a dywetyt y gwir mae y kok oen yn y haedu. Gau i tro heuyt?

Alwynn yssyd yn kymryt offeryn Mihangel yn gatarn yn y law ak yn pwnyaw Simeon sawl gwaith. Ar hynn wyu uinneu a Day Day a Mihangel yn symut yn llechwreid tua'r allanua, kynn i'r delwedeu rywiawl uynet yn ry graffik.

Onyt, wi ak och, Simeon a oruk dadebru, a mawr ydyw y auael eu gyta'r hedlu. Ak yuelly kynn inni allu kyrrhaed y tauarn agossau, yr hedweissyon oedynt ar yn trywyd, A hwynthwy a'n danuonassant i gudiaw yn Eryri, megis Owein Glyndwr neu Bryn Uon. A neut llyma pa le yr oedym yn kuddyaw tann doe, pann y keuesi arwypot bot Gwytionn uab Don gweti bot yn ymosot arnau ar uyg gweuann uy hun, a minneu sylweis bot reit immi dyuot allan o uyg kuduan a'y gwynepu. A nawr wyu yn gwypot y uot yn trigaw yn Penryndeudraeth, yuelly ryw diwrnod gwnau inneu a uyg kydymdeithyon uynet yno, a rodi kweir iawn idaw. Eithyr, dim ness inni gaffael sawl peint o gwrw brau gyntau.

26.2.07

GWR GWELL A GWYCHACH NA'R KYMRO KANOL YSSYD YN DYUOT I'R UANN

HA WYR WYU GWETI YCH KANUOT.

KRYNNYWCH YN YCH SOTLEU KANYS MYUI WYF YCH YMERAWTWR YR AWRON NIT Y KYMRO KANOL.

PA LE YW EU Y'W KANUOT BETH BYNNAK? NIT YW GWETI BOT O GWMPAS ERYS TRO BYT. WYU GWETI LLWYDAW YN UY YMGEIS Y'W TRECHU EU.

A PWY WYU? NEUT, WYU Y DEWINN MWYAU GRYMUSUAWR YN Y BYT BYCHEIN HWNN. NIT OES ANAT DIM NA ALLAU Y ORESGYNN NA DIM BUN NAD YSSYD DAN UY SWYN LLEDRITHYAWL INNEU. IE, WYR, WYU GWYTIONN UAB DON! GWYCH WYU.

AC YR AWRON, NEUT, LLYMA UI GWETI JAKKYAW I MYWN I WEUAN ALAETHUS Y GWR A EILW EU Y HUN YN "KYMRO KANOL", AC WELE UYM BWRYAT YW DEUNYDYAW Y LLEKYNN HWNN I ARDAGOS PA MOR WYCH A GOLYGUS WYU. NI UYD SON AM YUET, NA MEDWI, NA RAKLENNI TELEDYD UFFERNAWL S4K. NIT YUELLY Y MAE ENNYN GWROKAETH POBYL. NA, WYR, NEUT, TRWY ORTHRYM A THREIS A CHWERTHIN AULAUAR MAL HYNN: HAHAHAHAHAHAHA. WYU ELYNN PENIGAMP, ONY WELWYCH?

AK NIT OES DIM ALL Y GWR KEU HWNNW SEU Y KYMRO KANOL WNEUTHUR AM Y PETH, KANYS EUE YSSYD GWETI DIULANNU O BOB GOLWG! MAWR YW UY LLAWENYD O'R HERWYD.

MUYI A DRECHAU HOLL WYR Y BYT! HAHAHAHAHAHAHAHA &C.

YR AWRON. I ACHUB Y DOGUENN HONN.

ALT F S







DOES DIM YN DIGWYD. KEU YW KYURIUYATURONN! KEISSYAU ETTAW, ENEIT.

CTRL S







DAL, DIM BYD YSSYD YN DIGWYD! OCH O HYNNY, OCH SAWL GWEITH A LLEUEIN A RHWYGAW DILLETYNN &C.

PAHAM NA ALL Y RAKLENN PHENESTYRI NEWYD SPONN WEITHYAW GYDA HUT A LLETRITH MAL 3.1? KEU KEU KEU KEU KEU!

SURBWCH WYU YR AWRON. AU YN OL I WEITHYAW O UY OGOU LLEITH YN PENNRYNNDEUTRAETH PA LE WYU YN KUDYAW AC YN KYNLLWYNYAW. OCH, NA, NI DYLYWNN UOT GWETI YSKRIUENNYAW HYNNY. YR AWRON BYD YR HEDLU YN UY KANUOT AK YN UYG GORUOTI I WNEUT REPEAT APPEARANCE AR Y KYURES NEWYD O BACHA HITHEU ODI YMMA. KEU GANWEITH! KEUTOT AR BENN KEUTOT!

DIALAU ARNAT AM HYNN, KYMRO KANOL! DIDERUYN UYD UY NIAL! DIALAU ARNAT AM BYTH!