Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

23.10.06

Seu yr hanes am uy herwgippyat a mal y deuthum y gyuieithu raglenn kyuriuyaturawl

Och! Och ganwaith! Gweti bot ymdeith o'r kyuruyatur am amser ry oruawr yr wyu. Paham, ue'ch klywau yn ocheneit mal Branwen ar uin torri y challon? Seu yr atteb: yr wyu gweti kaffael uy herwgippyaw! Neut, yr wyu yr awron yn ryd, onyt yr oed y teir wythnos diweythau yn hunlleu tra reibus a trist. Llyma yr ystorya ...

Yr oedwn, wele, gweti bot yn kyuaruot ettaw y uerch gyta'r llygeit piws, yn yuet Tenants Arderchawk Gwryu gyta hyhi, ak yn chwerthin am hen hanessyon, ak yn y blaenn. Eithyr, hyhi a aeth ymdeith i ymouyn ragawr o gwryu, a minneu yn pendwmpyann ger koetenn tu draw i Kaer Seint.

Onyt, wele gorphwyll! Kanys tywyllwch dutew a daeth drossou, ak arogyl klorophorm (wyu yn gwybot y arogyl kanys myui a Mihagel Pontsteffan oedym yn arbroui gytak eu mywn kyswllt a rekordyet Tebot Piws niuer o haueu yn ol), ak yna disynneis y mywn i gwsk hunlleuus.

Pann y deuurois, wele uy mot mywn swydfa keu, yn gwiskaw krys ak heuyt tei, yssyd yn dra ot immi, kanys wyu gweti gwisgaw dim mwy phuruyawl na krys T Danyel Llwyd a Meistyr Rudwynn erys tro byt. Ak wele, hwnn ydoed yn seuyll nessau immi ydoed gwr bychan teneu, salw, ak ysbektol ar y drwyn, a'y wallt yn seimllyt.

Etrycheis innei arnaw mewn diruawr ouyn, a gouyn, "Ai ellyll o'r uall, wyt, wrda?"
A hep eu, "Na, wr. Seu yr wyu, raklennyd kyuriuyatur. A seu uy enw, Gwilym Llityartyeu."
A uym medwl ydoed yn kouyaw rywpeth am yr enw hwnn, a sylweis, wele, llyma'r gwr mwyau kyueothawk yn y byt ak eithryaw Brynn Teruel yssyd yn digon kyueothawk i retek eisteduawt y hun bob blwydyn, eithyr eisteduot well na'r un go iawn ak yndaw Siwrley Baseid a Westlife.
"Onyt paham, Gwilym Llityarteu, wr keu ak Amerikaneid," hepe ui, "yr wyt gweti kipyaw Kymro Kanol diniwet mal myui?"
"Kanys," hep eu, "un, digriu yw eu; ak eil, yr wyu dy angen, Kymro."
"Tydi, uy angen i?" hepe ui, "och o hynn! Pa beth wyt am immi wneuthur, wr keu a llawn dy gophor?"
"Wele," hep eu, "yr wyu yn keissyaw kymryt drossod yr holl uyt gyta uy raglenn kyuriuiaturawl hynot, onyt i wneuthur hynny reit yw immi gyueithu yr raglenn i bob ieith yn y byt. Ak wele, yr wyu gweti llwydaw hynny a phob ieith--ie, hyt yn oet y rei dibwys mal Kernowek--ak eithryaw Kymraeg Kanol. Ak wele, keueis y newydyon mai ti, Kymro o Kaer Seint, oed y Kymro mwyau Kanol yn y byt. A gwelet dy weulog a wneuthum, a mawr ydoed uy llit dy uot yno yn yskriuennu ak yn amlyku yr ieith, kanys yr awron reit yw immi gyuieithu uy raglenn i Kymraeg Kanol. O dy herwyd di, wr keu a Kanol!"
A du ydoed o'y lit, a uy mraw inneu a ehangod.
"A pha beth yr wyt ti eissieu immi y wneuthur, Gwilym Llityarteu?" hep ui.
"Wele, kyuieitha hwnn," hep eu, a kynneu y skrin o'm blaenn, ak wele y skrin yn mynet yn du ak wetynn yn las, a'r geirieu PHENESTYRI 2007 arnaw.
"Och!" hep ui. "Ypdet arall!"
"Ie," hep eu. "Y kam nessau, a'r olau, i gymryt drossod y byt. Hwnn uyd y ursiwn uyd yn kyrrhaed mwyau o bobol y byt, onyt byd yn gweithyaw'n llei da nak unryw raglenn eryoet o'r baenn. Seu uy kynllun mawr."
"Twat," hepe ui.
"Ie," hep eu, "onyt twat kyuoethokach na ti. Yr awron, kyuieitha hwnn, ak os y bydi;n keissyaw dihank kynn y gorphen, bydau yn kyhoedi ar uy gweuan y gwir am y ti a'r dauat a'r uerch o Bennryndeudraeth."
"Och a wi," hepe ui, "ni digwydod im uelly immi eryoet. A sut yr wyt yn gwpot pa beth bynnak?"
Eithyr ni lauarod eu dim, onyt glaswenu a gatael immi gyieithu.

Ak wele, teir wythnos a mwy y kymerawd immi gyuieithu y raklenn keu honn. Yr awron, llyma myui yn ol yn Kaerkybi yn Sir Uon, gweti glannyaw ar y porthlad odi ar ryw llong dirkel, ak yn retek ar uy uniawn i dauarn ak yndaw kyuriuiatur (ak heuyt kwrw), i yskriuennu amdanaw.

Onyt, och ettaw! Gwelau uot uy kyuieithiat gweti kyrrhaed y rann hwnn o'r byt yn barot, a mae yr holl skrin yn dangaws Kymraek Kanol. Yuelly, llyma'r hynn yssyd yn digwyd:


>>>>
Hawdamor, y mae Phenestyri 2007 yn kychwyn.
>>>>
RYBUD KEU KEU KEU: Seu, o leiau un twlsyn yssyd gweti y dadgysylltyaw gennyt. Keu yw hynn. Reit yw itti y rodi yn ol y mywn, neu llityawk uyd y kyuriuyatur hwnn.
>>>>
Diolch eneit. Y mae y system yn ymchwilyaw am elynnion.
>>>>
RYBUD KEU KEU OCH O HYNNY: Wele, y mae Phenestyri 2007 gweti kanuot 13,405,672 o elynnion ar dy kyuriuiatur. Wyt ti eissieu idaw y trechu oll a lliniaru dy gyuriuatur?
>>>>
Diolch eneit.
>>>>
GWARADWYD OCH A WI: Nit oed Phenestyri 2007 yn gallu lliniaru 13,405,671 o'r gelynnion. Os gwelwch yn da kysylltwch a gwrda yg kwmni Bychanuedal (0980 154371, 95 keinyawk y uunut) i holi rywun diglemm am y broblem.
>>>>
Oss y bydwch yr awron yn karyaw ymmlaenn, gall ych kyuriuyatur gaffael y dinistryaw a byd ych holl wybodaeth yn kaffael y herwgipyaw am byth bythoed a bydwch yn marw yn iuank a digaryat. A ydych eissieu karyaw ymmlaenn?
>>>>
Diolch, eneit. Mae Phenestyri yn agor.
>>>>
Y mae 986 o e-bostieu gennyt. Mae Phenestyri gweti adnapot 981 o rein uel Keubostieu. Oni bai dy uot ymouyn ehangu hyt dy gok pitw, neu eissieu pornographeg rat, wyt eissieu i Phenestyri lad y keubostieu hynn?
>>>>
Diolch, eneit.
>>>>
KEU KEU OCH: Nit oed Phenestyri yn gallu lad yr holl geubostieu. Yr awron mae 167,410,113 o elynion marwrol ar dy gyuriuyatur. Phwkedig yr wyt.
>>>>
Wyt gweti goyunn agor y raglen Geir. Agor y mae.
>>>>
Yn agor y doguenn "Doguenn pwysik a da yn kynnwys y fford i iacheu pob auiechyt". Arosswch ennyt, eneit.
>>>>
GWARADWYD KEU OCH O'R GWARADWYD HWNNW: Seu yw Phenestyri gweti dileu dy doguenn. I wypot y resswm, byd Phenestyri yn retek ymchwilyat. Nit oes dewis gennyt. Byd hynn yn rewi dy gyuruyatur am odeutu 1 awr 57 munut, euallei mwy.
>>>>
OCH GWARADWYT ETTAW GWAE UI O'M GENEDIGAETH DA O DWY DOGUENN A DILEWYT O'M HACHOS I: Seu yw Phenestyri gweti kael gwaradwyd mawrol, ak yn keu i lawr yr awron.
>>>>
Diolch am deunydyaw Phenestyri 2007. Dewch yn ol yn uuan.


Yn uyr, y mae eu yn uniawn yr un uath ak o'r blaenn, eithyr yr awron y mae eu mywn Kymraeg Kanol. Gwae attat, Gwilym Llityarteu. Yr wyt neut yn mynet ar uy restyr o wyr y bydau yn dial arnynt mywn oes a ddel, yssyd yn kynnwys Gwion Rhwyni, Gwytionn uab Don a'r gwr hwnnw a menyg gwynn yssyd ar Tipit. Uy nial a daw! Eithyr nit tann immi gaffael o leiau ugein peint o gwryu brau, a gorphen uy nosson yn gorwedyan mywn ffos ym Porth Amlwch. Da o nosweith uydei hynny.