Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

2.3.07

Nyni yn tri yn dangos yn gallu kerdorawl ar y teledyd unweith ettaw

Yn wir, yr wyu yn dywetyt wrthych, yr oed y prouyat o berphormyaw ar K-Ffaktor kyn y Natolik a kanuawt uot Mihangel Pontstephan gyta lleis mal eos ar ol deudek Strepsyll gweti kronni blys am gannu ynnom. Nit aml y mae Day Day yn kaffael synyateu da. Neut, byth, onid wele y mae tro kyntau i popeth (heplaw amdanou inneu'n deffraw hep pen mawr, och o hynny). Ak yuelly, tra yn eisted yn tauarn inni yn dathlu yn budugolyeith tross Gwytionn uab Don, ak heuyt y bot hi yn dyd Gwyl Dewi, oed yn sant oed yn byw mil pum kant o ulynydoed yn ol ak yn hoffi yuet dwr (nit dyn ar ol uyg kalon yw eu, eithyr roed y gallu i newit y tirwed gyta hankes boket yn anhykoel, ak yr wyu i a Mihangel yn medwl dylem keissyaw meistrolyaw yr un trik, i allu i goti bryn mawr, mawr i rowlyaw i lawr eu pann yn chwil). Neut, dathlu hyn oll oedem gyta jwgieu o kwryu phlat yn O'Sheas yn Bangor Iskoed, Day Day a dywedassod y gynllwyn gwallkou nessau.

"Nachau," hep ynteu, "henoid wele S4K yssyd yn darlletyaw y raklenn ulynydol hynaws hael honno, Kan i Kymru, pa le y mae wyth o gantoryon yn kystatlu am ennill £100,000,000, a'r sawl yssyd yn ennill yw neut y gwr yssyd a'r mwyau o gydymdeithyon yn pleidleisyaw idaw tross y negess testun. Hawd uydei inni gystatlu yndaw gyta lleis eoseid Mihangel, ak ynteu a'y opherynn mawredawk etc. Ak o ganlynyat, wele bydem yn ennill digoned o aryan i yuet bop nosson o yr awron tann diwed amser yn Koui Karrek! Neu prynu tri pheint yn Kaerdid."

Onyt myui a dywedeis wrthaw, "Day Day, uyg kyueill mongllyt mwytrus, wele Kan i Kymru yssyd angen itti rodi dy gan i mywn erbyn mis Jonawr eithyr ni wnant dy derbynn. Ak heuyt, nit oes gennym llawer o gydymdeithyon a wneiph bleidleissyo inni. Nit rei yssyd a teleffonyeu a'r gallu i negessu testun pa beth bynnak. Kynllun phol yw eu."

A Day Day a dywawt, "Na, wyu erioet gweti kaffael kynllwyn phol, Kymro dilornus."

Ankywir oed eu, wrth gwrs, onit nit oedwn digonn sobor i datleu ak eu. "Dywet ditheu dy gynllwyn gwych ynteu, Day Day," hepe ui, gann uodi uym pryteron ymywn uyg kwrw.

"Ha," med Day Day, "wele, Mihangel yssyd yn ganwr da, a myui yssyd yn gawr da, a tydi, Kymro, wyt yn atynyattawl at uunot, ak yuelly kretau y gallwn ninneu gystatleu yn Kan i Kymru. Seu uyg kynllwyn, inni dorri i mywn i'r stiwtyo tra bot y kystatleuaeth yn mynet ym mlaenn, a kanu uyg kan inneu. A phawb yssyd atreu yn gwylyaw ar y teledyd, wrthi yn phlippyaw rwng Akademmi Enwawgrwyd Rydhat Komig ar BBK1 gant welet yn kanu, a pleidleissyaw inni, a nachau nyni a ennillwn £100,000,000!"

Kyttunassom, myui a Mihangel, y uot yn kynllwyn pholach na'r un y mae Day Day gweti y gaffael erys idaw awgrymu inni geissyaw ymdangos ar Sialens Priuysgawl gytak Ieremwy Paksdyn, a ninneu yn kolli o -55 pwynt i Rytychen (keu oed y dyd du hwnnw), onyt a dywetyt y gwirioned, oedym hep dim byt i'w wneuthur i diwrnot wetyn, ak yuelly diskynassom ar wneuthur kynllwyn Day Day, eithyr inni wneuthur yn siwr yn bot yn uedw, uedw kynn mynet i'r stwityaw.

Wele nyni yuelly yn y stiwtyaw y diwrnot wetyn, a hwynthwytheu yn rekordyaw. Ak ar ol i'r trydyd kan kaffael y chwaray, seu ryw peth am y glaw, yssyd yn peth kyffretin iawn IAWN yn Kaer Seint, Day Day a ruthrod i'r llwyuann a dwyn y mikroffonyd, a myui a gikyeis y drymywr yn y geillieu a dwyn y ffyn, a Mihangel a gamod yn braff i'r llwyuann gyta y offerynn hynot allan yn y dwylaw, a llyma ni'n dechreu kanu kan hwylyawk y mae Day Day gweti y kyuansodi (er wyu yn kretu idaw dwyn y tiwn gann rywun arall). Seu yn kan.

"Wrth gwrs ue gei di prynyaw im jwk o gwrw;
Wrth gwrs ue gei archebyaw peint o Brens;
Wrth gwrs ue gei di yuet pum siott o wiski;
Dim onit itti warchot rak varikos vens."

Llyma kan a glywyt yn tauarn yn Aruon;
Fe gauwyt ynno dwrw
Rhyw dri o Gouis medw,
Ak roedent yn gweidyaw:
"Neut, diot uynnwn ni!"
A buan oedent yn llithraw,
Yn chwytu ak angkouyaw--
"Bois Kaer Seint yn Aruon ydym ni!"

"Duw na, ni gewch chi ddiot," yr hep yr barman;
"Duw na, rych uedw gokos," medei eu;
"Duw na," hep ni, "rym sobor mal gweinidok;
O! ro inn gwrw brau!"--a wele'n llef:

Llyma kan a glywyt yn tauarn yn Aruon;
Fe gauwyt ynno dwrw
Rhyw dri o Gouis medw,
Ak roedent yn gweidyaw:
"Neut, diot uynnwn ni!"
Ont kawsant hwy gik allan--
Och, mawr oed y gyulauan!
"Bois Kaer Seint yn Aruon ydym ni!"

Och, da ak heuyt sonyarus ydoed yn kanu ninneu, a gwych oed bysedu Mihangel o'y offerynn! Ak wele y bunot hoffus yn taulyaw y dillat isau attom, a'r rann uwyau yn diskynn ar penn Day Day, ak eu yn digyaw o'r herwyd, kanys ffemynyd yw eu ak yn erbyn i uunot ymdwyn mal hynn. Eithyr myui a Mihangel oedem yn katw'r dillat isau er mwyn ychwaneku at yn kasglyat atreu.

Onit--galar! Nachau yn dyuot o'r stiwtio y uun honno a oed yn amlwk gweti diank o'r mann pa le y rodassant Simeon Kawl ak Alwynn uab Hwmfree hitheu, seu llyma KARRYL UERCH HARRI UERCH SION, och o hynny! A llitiok iawn ydoed hi.

"Neut, chwychwi ydych kantoryon gwaethau wyu eryoet gweti kliguet ar Kan i Kymru," hep hi, "Ak mae hynny yn kynnwys Iwks a Doyeil. Gwradwyd arnoch! Mae uy krynodisk newyd allan."

Ak ar hynny llyma hitheu'n redek attom gann reki mal Arianrhot gynt, a llyma ninneu yn troelli ar yn sotleu a redek odi yno, kanys nit ym ninneu'n hoph o Karryl uerch Harri, o'r perwyl mai brawychus yw hi erbyn hynn ak yn llawn gwallgourwyd. Eithyr mae Day Day gweti prynyaw y krynodisk newyd hi, ak mae eu yn y hoffi, hyt yn oet Shampw. Onit, kretau mai o herwyd y llun rywyawl ohoni ar y klawr y mae eu gweti y prynyaw ymywn gwirioned. Och, mong yw eu.

Neut, yuelly, ni wnaethon ennill Kan i Kymru, onit yr wyu yn sikir y bydwch chwitheu yn gwylyaw eu ar y teledyd henoid i welet os allwch welet myui a'm kydymdeithyawn yn y gynilleitua yn kydkanu'n uedw!