Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

31.8.06

Minneu yn diulasu ak yn penteruynnu gatael i chwitheu wneuthur y gwaith kalet o yskriuennu

Wele, yr wyu gweti sylwi yn diwedar, wrth etrych ar y sylwateu yssyd yn kaffael y gatael ar y blog hwnn, kymeint o uunot yssyd yn yskriuennu arnaw. Neut, erbyn hynn y mae pump neu chwech ohonoch uunot heird gweti dyuot i dalu ych tegyrnget i'r Kymro Kanol a'y anturyeutheu arderchawk. Ak y mae y Kymro Kanol pop tro yn hoffi sylw gann uunot, yn enwetik rei yssyd braid yn ryued yn y penn (wyu yn etrych arnoch chwitheu, uun a'r llygateu piws). Onyt, och, kymeint ohonoch yssyd allan yna, a dim onyt un Kymro Kanol, ak yuelly yr wyu gweti medwl yn yu penn am KYSTATLEUAETH hynot y gallwch kymryt rann yndaw. Seu y KYSTATLEUAETH:

Ydych chwitheu yn uun yssyd yn eisted atreu prynhawngweith gann uedwl yn ych penn, "Oy a ui! Yr wyu yn unig ymma yn eisted gan wisgaw dillat byryon see-through, paham na allau gaffael ryw peth hynot a bywyt-newityol i digwyd immi, megis e.e. mynet allan am diot gytak y Kymro Kanol, y Koui kalla hwnnw yssyd yn yskriuennu mor deallus ar y ryngrwyt? Och na uydai KYSTATLEUAETH o bwys yn kyuoti immi gaffael kyule i wneuthur hynn!" Wel, na phoena ychwanek, kanys DYMA'R KYULE HWNNW!! Nachau, yr unig peth yssyd reit ichwi y gwneuthur ytyw postyaw sylwat ar y gweulog hwnn gann dwetyt: "paham yr ydych yn kretu yr ydych chwitheu yn well nak unryw uun arall ar gyuer y Kymro Kanol?" Byd y person yr ydwyu yn medwl (yn uy penn) yssyd yn gwneuthur y dadyl goreu yn ennill y gwopr. Byd yr ail saule yn ennill cinio diw Sul heuo Day Day. Byd yr holl runners-up yn kaffael y ffilmyaw yn ymaulyd kotwm mywn jeli dann wiskaw bikinis. Kanys kyule kyuartal ydyw pop KYSTATLEUAETH gann y Kymro Kanol. Da yw.

(Notynn: reit i chwi uot yn uun i gymryt rann yn y KYSTATLEUAERTH honn. Ni allau bwysleisyaw hynn yn uwy klir. Y tro diwethau rodeis y gwopr mewn camkymeryad i bricklayer o Rosgatuan, ak nit oed hwnnw yn noson ramantus wrth y kamlass mal y dywet y brochure. Och ak oy o hynny. Uelly: dim onyt bunot. Eithyr, TVs yn OK.)

Y dydyat keu (seu y diw olau gallwch KYSTATLU, nit diwrnot hynot o drwk) ydyw, och, ni wnn, ryw pryt yn y dyuotol, pann yr wyu yn hongyan drossod ryw uore ak a dim ynni i wneuthur dim mwy nak etrych trwy negesseu gan uunot yssyd yn uy hoffi.

Yuelly, dechreuwch uedwl atti, a kouiwch: gellwch newit ych kyule o ennill trwy uy llwgwrwoprwyo inneu gyta e.e. kwrw, gemau Ecsbocs, llunieu ohonoch. Eithyr, ni chewch llun ohonou ui mewn dychwelyt. Kanys nit per ar y llygateu wyu, yn enwetik ar ol pum peint o Tenants efo kiniaw doe. Och ohonno.

22.8.06

Uy ertheigyl hynot ydoed yn ryw kylchkrawnn sauonnawl

Och! Gweti deffraw yr wyu y bore hwnn gyta dim kou o'r wythnos dwythau. Kouiau uynet i geissyaw gwrandaw ar y koreu meipyawn yn y balleu uawr bink ar y dyd Satwrn, onyt methu a mynet i mywn kanys mor chwil yd oedwn. Uelly, myui a euthum i'r bar, a phrynyaw gwytrynn o'y kwrw doji am deir punt, ysywaeth ak och o'r gwaryant hwnnw. Eithyr, wetynn, y mae yn fuzzy mal gwallt dirkel Gwytionn uab Donn. Kretu yr wyu immi geissyaw mynet o gylch Abertaui yn keissyaw kanuot lle ydoed yn gwerthu kwryu, eithyr y maent oll yn llwyrymorthotwyr yn Abertaui, ydynt, a myui a oedwn yn goruot torri i mywn i Spar a dwyn potel dwy litr o'r Uellten Wenn. Yna, tywyllwch.

A nachau, myui a deffrois beth orieu yn ol mewn ffos yg Kaer Seint yn Aruon, gyta baryu hir (meuyl arnaw), dim esgitieu, krys T yn dwetyt "Myui a euthum i Glwb Hoywon Kaer Dif a'r hyn oll a geueis ydoed y krys T gwaradwydus hwnn", a rif ffon Heled Kynwal ar uyn llaw. Dyna ydoed sesiwnn, uyg kydymdeithyawn hoff! Uelly gwnn y bydwch yn madeu immi pe nad yskriuennwn geink hiruaith hediw, eithyr rydwyu yn gwneuthur mal y gwna Aruon Wynn, seu ailgylchu uy hen syniateu.

Llyma, yuelly, yr ertheigyl yr yskriuenneis pan oedwnn yn yr eisteduot, ak a gyhoedwys yn y blwydiatur Dim Lol. Yr wyu yn diolchgar o'r mwyau i Ray Dyota am uyg kyhoedi. Llyma uersiwn uwy hep y dorri o'r ertheigyl hwnnw. Prynnywch Dim Lol! Da yw, eneit.

--KROESAWYAT I'R EISTEDUOT GANN Y KYMRO KANOL--

Ha, wyr. Neut, eisted yd oedwn treigylgweith ymywn tauarn yng Kaer Seint yn Aruon, mal yr wyu bronn pop prynhawngweith, gyta kwrw melys brau yn uy llaw, pann daeth i uy ymyl wr ryued iawn, yd oed yn siarat mal ydoed o wlat estronn. A llyma arnau diruawr loes ac oun.
“Shwmae, gley,” hep eu.
“Pwy a wyt, wr?” hepe ui, dan gudyaw tu ol i uy kwrw.
“Eneit, dyuot o’r Abertaui yr wyu, spo,” hep eu yn llawen, ac yn syth sylweis mai Hwntw yd oed, a mwyuwy ydoedd uy oun, kanys ot ynt hwy. Nit mal Kouieu kall—ni deallant hwy peth yw peth. Eithyr yr Hwntw hwnn a brynnod im beint, ac och! mawr ydoedd uy llawenyd.
Yna hep eu, “gweleis dy weulog di ar y Gwe Uyt Eang, gley, yn dywetyt dy hanessyon di, a mal yr wyt yn dra uedw bob awr o’r dyd. A medylyieis pa mor brau uydai dy gael ti i dod i lawr i’r Eisteduot Genetlaethawl ymma yn Abertaui a yskriuennu ar gyuer yn kylchkrawnn ninneu pa sut y tybiei yw’r wyl. Spo.”
Ac hepeu i, “Eisteduot, eneit? Nit wyu i weti mynet i’r uath le erys tro byt, kanys pellennik yw’r tauarndai odi yno, a hir ydynt y kiwiau i uynet i wrandaw ar Giraldus Llwyd Owein yn traethu yn digriuawl yn y Palleu Len.”
“Eithyr, spo,” hep eu, “kanuydwch bar ar y Maes yn awr.”
Ac wele, mawr ydoed uy llawenyd.

Ac uelly, gydymdeithyon hoff, y dou a’r kyuarch hwnn o’r maes yn Abertaui. Ni soniau i am uy nhaith erchyll i lawr o Kaer Seint yn yr X32 Traws Kambrya, kanys diruawr drwc ydoed, a mawr ydoed y chwytu a’r ysua am wagyat. Eithyr yn awr soniau am ual yr eistedau yn y tauarn-uar ar y Maes yn yuet kwrw drutuawr, ac yn tybyaw pa mor hir a wnaiff uy aryan barheu kynn i uy mokket uynet yn wak; och o’r gwaryaw.

Onyt brau iawn ydyw’r Maes hwnn, a’r dreu Abrtaui, yssyd yn uawr ac ot, eithyr gyta llawer o dauarndai; da yw. Onyt mae angen, yn y kylchkrawnn hwnn, eneit, immi son am betheu keluydydawl Kymreik, a mawr yw’r meuyl immi nat wyu etaw weti gosot troet ody mywn i’r Pauiliwnn. Neut keissyais, ar y prynhawngweith kyntau, onyt Stywart kau a dechreuawd ymguathrach a mi, a dywedyt na chawn uynet i mywn ar ganawl y dawnsiaw gwyryon, kanys Dawnswyr Mon oedynt ar y llwyuein a mawr uydai’r amharraeth pe yr elwn inneu i mywn yn uedw gaip. A minneu a alwais eu yn enweu, kanys kok oyn ydoed, yn attal uy nyskeidyaeth diwylliannawl. Uelly yn ol a minneu i’r tauarn-uar, a ffoniaw uy nghydymdeith hoff Day Day ar uy telytelyffon symudawl. Day Day yssyd yn uoi iawn, ond yn ffemynyd ac yn alcoholyd. Seu yn cyuathrach:

MYUI: Ha, Day Day. Dyuala pa le yr wyu.
EU: Ni wnn. Dywet.
MYUI: Eneit, yr wyu yn yr Eisteduot Genetlaethawl, yssyd yn Abertaui.
EU: Och o’r trigyaw! Yno y mae gwlat yr Hwntw. Keu ydynt, a’u haraeth yssyd mal rheiny yn Popol y Kwm. Och o’r llitiogki yssyd arnau drossot!
MYUI: Kytunau, gyueill, eithyr mae gandynt ymma lawer o kwrw melys brau, eneit. Eithyr drutuawr yw.
EU: Kwrw? Neut, kwrw melys brau? Onyt ar y Maes? Och! Oy!
MYUI: Kywir. Eithyr nit ydynt y Stywardyeit keu yn uy gatael i mywn i pyruio dros y dawnswyr. Wele, llit oed arnau.
EU: Meuyl arnat, Kymro. Na sylla ar y bunot megis gwrthrycheu rhywiawl, kanys popol ydynt wedy’r kyuan, ac yn haedu ennyn dy parch.
MYUI: Ond beth, eneit, os ydynt y sgertieu yn hynawt uyrr a rei dim yn gwiskaw y bra?
EU: O’r goreu, yna mae’n OK, kanys eu bai hwyntwy ydyw wetyn.
MYUI: Diolch, Day Day. Pa beth yr wyt titheu’n wneuthur, uelly? Pa sut mae hen wlat yn tateu, Kaer Seint yn Aruon?
EU: Ni wnn. Kanys doe, mor uedw yr oedwn, y diskynneis i kysgu yn keuyn ryw uan, a’r bore hwnn yr wyu wedi deffraw yn yr Arianninn.
MYUI: Och. Eithyr y maent yno’n siarat ieith Ynys y Ketyrn, ie?
EU: Kywir. Buom yn kanu Sospan Uach, a myui yn angkouiaw y geirieu, kanys dal yn uedw yr wyu.
MYUI: Oy, Day Day, mong yr wyt yn wir. Heuyt, mae uy kretyt ar uy telytelyffon ymronn yn dim kanys yr wyt yn Arianninn a minneu yn Abertaui, a pell ydyw’r nayll o’r llall. Llitiawk yr wyu, kanys yn awr llai o arian yssyd gennyu i brynnu kwrw. Dos ymdeith. [Hongiau i uynyd.]

Gobeithiau y byd Day Day yn iawn, eithyr mae weti bot mywn gwaeth bikleu yn gorffennawl. Eithyr ystori am gyunot arall yw hwnnw.

Uelly, gydymdeithyon, beth yr wyu weti dysgu o uy prouiat yn yr Eisteduot yn y dydieu kyntau hynn? Yn wir, seu tri pheth:

KYNTAU: Y mae y kwrw ymma yn UELYS onyt yn DRUTUAWR. Kanys, eneit, mae MONOPOLI gandynt ar y MAES.
EIL: Y mae STYWARDYEIT yn KEU.
TRYDYD: Klywau uot KOREU MEIPYON yn rai gwerth y klywet, kanys GWYR DEWRYON ynt hwy yssyd yn gweithyaw yn ystot y dyd, yn YUET yn ystot y prynhawn, ac yn kanu yn ystot y nosweith. Ac yna, euallai, yuet mwy. Wele, dyma da wyr syd yn kynnhessu uy kallon, ac ue wnau ymdrech i uynet i wrandaw arnynt, eithyr euallai byd rheid immi gudiaw potel o Brain’s Breat ou Heauen dann uy nghot, kanys hiryon yw’r kystadleutheu hynn, mi a glywau, a mawr yw’r mwydraw gann y kyulwynwyr rhwg y koreu. Och y diruawr disgwyl hwnnw.

Uelly, gydymdeithyon, gobeithiau uy mot weti ych kymorthwyaw i deall yr Eisteduot hwnn yn well, kanys gwyl dyrys yw, gyta, yn wir, popol ryued mywn gwisgoed gwyn, glas a glas arall, yssyd yn ot iawn, ac weithieu kretau mai medw yr wyu (kanys medw yr wyu yn aml, iawn, iawn), onyt ymdengys mai rodi kadeir i uard o uri y maent, ac nit ellyllon o uy nychymyk penblethok. Eithyr, gwell uydai gennyu i gael ffri bar am weddyll yr Eisteduot na chatair yssyd dim yn gwedu gyta gwedill uy notreuyn yn ol yng Kaer Seint. Wyddoch chwitheu uy mot yn dipynn o uard uy hun? Na, eneit, namyn dewin y gynghaned wyu. Wele: “Êl megys mêl yn uy mol”. Och, o’r sayn kytpwys akkenawg!

11.8.06

Minneu yn kliguet partion gwerin yn kanu am drais

Uelly yr wyu weti bot yn yr eisteduot erys sawl diwrnot, ak y mae weti bot mal un chwyrlygwgann o liw a rhialtwch. Llyma uel y maent weti talu immi i'w dwetyt beth bynnak. Mywn gwirioned, yr wyu weti bot yn houran mywn ak allan o'r Palleu Llen (pa le y mae Meiryawn ap Intyre ap Huw a Myrdin ap Dauat weti bot yn kreu bardoniaeth tra digriu), y pauiliwnn (unweith neu dweywith, pann y mae y stiwartyeit yn kaniatau immi uynet i mywn) a'r bar. Ymma yn y bar yr wyu yr awron, ak er y bot yg kanol prynhawn, tra uedw yr wyu.

Onyt y bore hwnn, kanys nat ydoed y bar yn agoret, myui a euthum i'r pauiliwnn i gyskoti, a gwelet a wneuthum tua triugain o partionn gwerin yn kanu kaneuon. A nachau Aterynn Pur ydoed un o'r darneu gosot, a tra diulas ydoed kanys ni wnn pam y dylei rywunn deunydyaw ateryn (pur neu beidyaw) i ymouyn negesseu, pann uo e-post neu galwat teliteliffon medw yn gweithyaw yn iawn. Onyt yr eil darn gosot ydoed "Pan oedwnn yn mynet o dauarn y Ros", yssyd yn darn digriu iawn am guraw bunot, eithyr bot Kynnog ap Dauid yn medwl mai drwk yw eu, ak uy nghyueill Day Day heuyt, debyk, uydei yn kytuno mai keu yw taraw merchet, hyt yn oet pann y maent yn bot yn auresymmol. Eihtyr, gwnn am uersiwnn well o'r gan honn, yssyd yn son am pann yr oedwn yn mynd ar dauarngropiat un treigylgweith ak ynn kael anffawt ar Bont Menei. Dyma eu:


Pann oedwn yn dyuot o Dauarn y Ros
Myui a'm kymdeithyon ryw amser o'r nos
Yn dyuot tuak atreu, i Kaer Seint yn Aruon,
Mi lithreis a syrthyeis i ganol yr auon.

"Achuba ui, Day Day, achuba ui'n wir,
Yr wyu yn ry uedw i gyrrhaed y tir,
Mae'r dwuyr yn oer, hyt yn oet yn yr ha,
Och tynn ui i'r lann, byda ditheu'n uoi da."

"Ni wnau i, och Kymro, ni wnau i mo'r uath,
Mae'n lot sychach ymma'r y lann, kok y gath;
Dy uai ditheu ydoed y bastyn mawr tew,
Am yuet ry ormot o Magners a rew."

"Achuba ui, Day Day, achuba ui'r kont,
Y mae hi'n ry bell immi nouyaw i'r bont;
Estynna uel polyn dy bottel o win,
A helpa ui allan, neu chwipiau dy din."

"Achubau di, Kymro, ond gytak un ammot:
Na wnei di byth ettaw lymeityaw ry ormot;
Keluydyt o uinjyaw yssyd yn yn gwlat--
Rait itti yw newit dy fford, nenw'r Tat."

Eu helpod ui allan, a minneu own dek:
"Nit dropynn uyth ettaw wnaiff gyffwrd uyg keg!"
Selyassom yr amot a dek peint yn chwanek
(Ak afftersiok chasers) yg keuyn Koui Karrek.


Euallei pann uydau weti kollyaw y penn mawr y byd gennyu ar ol yr wythnos honn, bydau yn son ychwannek am uy amser yma. Neut, yr wyu yn mynet i welet Brynn Uychan yn y Maes B henoid, ak euallei y bydau yn kyuaruot bunot glan, pryduerth yno! Neu euallei yr un hen skankyeu o Urynaman uel aruer.

7.8.06

Myui a wyu yn yr Eisteduot!

Ha wyr, a llyma yr wyu yn yr Eisteduot Genetlaethawl yn Abertawy! A pahamm yr wyu yma, ue'ch klywau yn bloedyaw! Wel, gydymdeithyawn hoff, yr wyu yma kanys immi kaffael uyg gwahod gann wyr pwysik iawn, IAWN o'r kylchkrawnn hynaws Dim Lol, oedynt eisieu barn a saubwynt Koui medw kall mal myui ar hynt a helyntyawn yr eisteduota brwt yssyd yn mynet ym blaenn yn y Deheu keu. Kewch wypot mwy am hynn trwy brynnyaw kopi ych hunein! Y mae ar werth ar y Maes hediw, eithyr rhattach ytyw diskwyl nes bot rhyw un arall weti gorffenn a choppi, ak ichwi wetynn y hela allan o'r bynn yspwryel. Kall yw uyg kanllaw inneu ar y pwnk.