Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

10.11.06

Uyg kyueill Day Day yn dwetyt wrthyu newydyon a wnaeth immi ocheneityaw, a'r antur enbyt yssyd o'm blaenn o'r herwyd

Euallei y bydech chwychwitheu yssyd yn berchen ar teledyd (mae uy un i gweti kaffael y ailgippyaw gan y beilyffyeyt erys tro byt, kanys nit oedwn gweti talu uym bilieu ysywaeth ohynny) gweti gwelet y raklenn honno newyd ar S4K yssyd gweti kymryt y byt Kymraek megis ystorom o hutlath Myrdin, seu yr ornest dihaual hwnnw rwng chwech gwr neu gwreik yssyd yn uwy diruawr na gweith Kamlann neu y brwytr olau rwg Matholwch a Bendeigeituran yn y antur a'y gyffraw hynot, seu dim arall na Tipyet-Eu. Kliguet amdanaw gann Day Day y gwneuthum, mal hynn. (Yn y tauarn yr oedym.) Seu yn kyuathrach:

EU: Ha, Kymro, llyma dy trydyd peint ar dek. Y Brains yssyd gweti redek allan, yuelly llyma Guinness shandi.
MYUI: Och o hynny, hoyw yw.
EU: Onyt, hoyw wyt titheu heuyt.
MYUI: Gwae arnat etc. [hynn yn mynet ymlaenn am peth amser uel yn haruer.]
EU: A wyt gweti gwelet ar S4K y raklenn newyd seu Tipyet-Eu?
MYUI: Na, wrda. Ai yw eu yn raklenn arall yn kaffael y gyulwynaw gann Iolaw ap Gwilym, y naturiwr a'r trowser bychan, bychan?
EU: Na, er bot 90% o raklenni S4K yr awron yn kaffael y kyulwynaw gandaw eu, ak y uot yn serennu yn Kon Passionate kyures y trydyd. Na, Kymro, Tipyet-Eu yssyd yn gem y maent yn y chwaray ymywn tauarndei onyt y maent gweti y rodi ar y teledyd.
MYUI: Och, nit wyu gweti y chwarae.
EU: Wyu, niuer o weithieu, kanys medw medw oedyt bop tro.
MYUI: Ie, tebyk yw hynny.
EU: Reit yw itti dyualu, yn y gem Tipyet-Eu, ym pa law y mae y trysor. Ak wetynn, os dyualyaw yn gywir yr wyt, ennill ryw ysglyuaethus gyta Aleks uerch Sion yr wyt.
MYUI: Wyt yn siwr, eneit? Nit yw hynny yn swniaw mal S4K.
EU: Nit am y raklenn S4K yr wyu yn son amdanaw, onyt bywyt yn gyffredinawl. Eithyr pa bynnak, y mae Tipyet-Eu yn gem llawn metr a siawns. Onyt, rann uwyau o'r amser, siawns.
MYUI: Da o hynny. Onyt, paham y mae S4K gweti kreu kyures drutuawr o'r gem honn?
EU: Kanys oedynt eissieu ryw eskus i kaffael gwaret o Kegin Dytli, kanys gwr keu Hwntw gwaradwydus yw eu, yn koginnyaw.
MYUI: Och, ni dylei gwyr goginnyaw, ak eithraw y gwyrda yssyd yn gweithiaw yn y tai kybap a pitsey.
EU: Kywir a da. Eithyr, gobeithyaw dy uot yn mwynhau Tipyet-Eu.
MYUI: Paham?
EU: Kanys wyu gweti yn arwydaw ni i lawr megis tim yn y gyures nesau. Tydi, myui a Mihagel, ak yn henw byd "Y Kymry Medwon".
MYUI: Och a wi, mong mongllyt wyt.

Eithyr, wi ak och eilweith, ry hwyr ydoed i tynnu allan, eneit, ak yuelly y mae reit i minneu a Day Day a Mihagel Pontsteffan ganuot fford i gyrhaed pellauoed y Deheu y penwythnos nesau, er mwyn kymryt rann yn y gyures ot hwnn. Byd reit inni gymryt sawl pekyn o ganieu kwrw i'n gwneuthur yn uedw uedw ar gyuer y sioe, kanys dim onyt pan y mae gwr yn uedw uedw y gall eu chwaray Tipyet-Eu megis athrylith. Onyt, byd un peth da yn dyuot o chwaray ar y raklenn honn--gallau gyuaruot un arall o'm gelynion praff, y gwr keu gyta'r menyg gwynnion yssyd yn katw tlws y Tipyet-Eu. Wele y uot eu gweti ymdangos ymywn breudwyt immi beth amsser yn ol, gyta y uenig gwynnion, yn dwetyt y byd eu undyd yn kymryt holl gwrw y byt ak y gudyaw ragdou. Ak och o hynny, yuelly reit yw immi y ganuot ak y dinistryaw, rak idaw lethu pob Kymro medw mal myui ak achosi inni uot yn sobor. Gwaradwyd a hunlleu uydei hynny, wyrda.

Yuelly, bydau yn ysgrikuennu keink arall yn uuan, yn diskriuyaw'r prouiat ounatwy, a mal y bydau inneu a Mihagel (onyt nit Day Day kanys nit yw eu yn da ymywn kwffas) yn trechu y gwr gyta'r menig gwynnion. Da uyd y geink honno.