Pumet keink y Mabinogyon: Chwedyl y Kymro Kanol

Wedi kanuot yr wyu y Ryngrwyt, a gwelau mai da ydyw. O'r herwyd, yskriuenny y gwnau arnaw yn dywedyt yr hynn y gwnau gyda'm bywyt. Y rann fwyau o'r amser, yuet ydyw. Hoffau yuet.

Enw: Y Kymro Kanol
Lleolyat: Kymru, Ynys y Ketyrn

31.7.06

Minneu yn kyuaruot a gelynn mewn seuyllua anaruerawl

Seu uy kydymdeithyawn hoff Day Day a Mihangel Pontseffan ys ydynt yn wyrda a dawnus, ak neut yn da iawn gyta y bunot: Day Day yssyd yn gallu y dennu gyta y rymmoed ffeminydaid, gann y perswatyaw e.e. y uot yn yn deall y proplemmeu ac yn "y gwahod yn ol i'y fflat er mwyn trauawt hawlyeu bunot tross bottel o win". Mihangel, uel arall, yssyd dim onyt yn goruot tynnu allan y offerynn, ak mae pop bun yn y lle yn agor y llygeit mal soserry, ak eisieu proui mwy o'y uysedu kain. Ond myui, eneit, ydwyu fel aruer yn yuet gormot i gael kyule i broui hudolyeith bunot, kanys yr unig rei yssyd yn uotlonn kyuathrach a mi (yr wyu yn son am siarat, nawr, eneit, nit y math yna o gyuathrach--ysywaeth) yw y rei yssyd yr un mor uedw a mi. Kanys ni a wydwn oll, o wyliaw raglenni teledyd ar siannelyeu megis Bravo a Gwyr a Moturon, uot merchet yr un mor drwk y dydieu hynn a gwyr am yuet y hunein yn chwil. Ak mal y maent yn gwisgaw skertieu byrryon, a thoppieu nat ydynt yn kaffael y dal i uynyd gann dim mwy na deu rimyn o edaued, ak yssyd yn aml yn torri gann--och o'r damweinn--ardangaws y darneu dirgel i'r byt ak heuyt y betwss, ak yn enwetik i kamerau siannel Gwyr a Moturon, och o'r kyd-digwydiat hwnnw.

Onyt yr wyu yn kolli edaued uy ystori inney, eneit. Mal yr oedwnn yn son am unot, ak yn enwetik mal nat ytyw bunot yn hoff o Koui Kanol medw yn llymeityaw y deudekuet peint o kwryu ak yn keissyaw dangos y uot yn gallu ennill BOP TRO ar Pwy a Uynn Uot Yn Uiliwnnyd ar y peiriant gemeu yn y gornel. Eithyr, y diw Iau diweythau, pann yr oedwn yn Koui Karrek, ak yn mwynhau y kerdoriaeth amgen yssyd bop tro yn kael y chwarae yno hep eithryat, myui a deuthum yn ymwypotol o uun yn eisted wrth uy ymyl ar y bwrd yn y gornel. Myui a etrychawd yn graff arny, kanys eithau medw yr own, a nit y tro kyntau uydei hwnn i mi gamgymryt bun deniatol am e.e. hen wreik, dyn, kateir, &c. Onyt y tro hwnn, er i mi uot yn eithau medw, gweleis yn diffuant mai bun oed honn, bun brytferth dross benn, eithyr ydoed ryw peth anaruerawl amdanni, namyn nit oedwn yn gallu roi fy mys ar beth ydoedd.
"Ha wr," hep hi, a y lleis ydoed mal sain yr eos, eneit. (Ydwyu, yr ydwyu yn gallu bardonni mor da a Iwann Llwyt weithieu--os nat, neut, gwell.)
"Ha uun," hepe ui, "pa hwyl?" (Llwydeis i atal uy hun rak dwetyt "pa hwyl gont?", mal y mae popol uel aruer yn dwetyt ymma--nit yw bunot yn y hoffi, ak mae Day Day yn enwetik yn medwl mai anuadeuawl yw--ond mong yw eu.)
"Y mae, eneit, hwyl diruawr issel arnau," hepe hi. A mawr ydoed yr ysiktot yn uy kallon o'r herwyd, eithyr yr oedwn dal methu a roi uy mys ar paham ydoed ryw peth yn wahanol am y bun hon.
"Och o hynny!" hepe ui, yn aktyaw mal Klerk Gable neu, neut, Ioan Gruffud yn yr Anhykoel Betwar, ak yn keissyaw swnyaw'n suave, ak, eneit, yn llwydaw. "Gat i minneu wella dy anhuned, arglwydes. Kymro Kanol ydywu inneu. A pha beth, arglwydes, yw dy enw ditheu?"
A hep hitheu: "Bloteuwed ydwyu i."

A dyna uinneu'n sylwi, ie, dyna oedd yn od amtanni--yr oed weti y gwneuthur allan o uloteu; lil'r maes etc. Yd oed y gwallt yn borffor, onyt nit yw hynny yn anaruerawl yn Kaer Seint yn Aruon. Kymereis yn ganyataawl mai chav ydoed hitheu, eithyr yr awron sylweis mai keradigaeth hynot o hudlath a dawn Gwytionn uab Don ydoed hitheu (yssyd yn typical o Gwytionn uab Don--mae popol normal yn mynt i'r tauarn neu deunydyaw match dot com onyt mae reit i Gwytionn dangaws y hunn a chreu y uun y hun allan o lili'r maes etc. Mynk yw eu, onyt beth yssyd y'w disgwyl gann hwntw?)
Namyn, myui a lauareis: "O! Uloteuwed! Hard yr wyt, a dy wallt yn borffor a dy lygeit yn beuryawl ak yn biws, a dy uronneu weti y kreu allan o kenninn Petyr, a dy ranneu dirkel weti y kreu allan o uwsogyl, oed yn uffan o kinki ar rann Gwytionn, a dwetyt y gwir. Eithyr, sut y gall bun mor unikryw a titheu uot mor anhappus? Heplaw am y dqalann poethyon yssyd yn dethi itti (mynk yw Gwytionn)."
"Ha Kymro," hep hi, gann dreipyaw y hun drossou i mewn fford ryyawl iawn (nit yw hynn mal aruer dim onyt yn digwyd i Mihangel Ponsteffan, pan y mae yn y Bala), "yr wyu yn chwilyae am dyn yssyd yn uawr ak yn gryu ak yn gallu uy amdiffyn. Kanys nit yw un dyn arall eryoet weti gallu uy modtlonni mewn materyon kariat."
A hepe ui: "Your luck's in, Bloti kyw. Myui yssyd yn ueistyr." (OK, gydymeithyon, yr oedwn yn dwetut kelwyd goleu, ond yr oedwn yn uedw braid, ak uel hynn y mae pawp yn siarat yn Koui Karrek beth bynnak.)
A hitheu a leuarod: "Ie, kymer ui."

A ninneu a aethom allan (weti tri neu betwar peint yn chwanek, wrth reswm) i lan y Uenei, pa le yr oed hi'n dawel heblaw am y drygis a'r doggers, a ninneu a gussanassom, eithyr hitheu a dynnod i ffwrd ohonou, a dwetyt, "na, eneit, nit uel hynn y mae uy pleseru inneu."
"Onyt," hepe ui, "y mae uel aruer yn gwneuthur y trik."
"Na," hep Bloteuwed, "yr ytwyu yn llawer mwy kinki na hynny."
"Crikey," hepe ui.
A dyma hitheu yn esbonyaw beth yr oed hi eissyau i wneuthur hi'n boeth ak yn barot (y geirieu hi, gydymdeithyon). A mal hynn yr oed.
"Y mae rait i ti uouyn bath o MFI," hep hi, "ak y lenwi a dwr poeth a swigot Herbal Essences."
"Hynn a wnau," hepe ui, a hynn a wnes. (Pann mae bun yn goyunn i chwi lenwi bath a swigot, mae noethlymunrwyd yn warantiedik 93% o weithieu, uelly mae yn llawn werth yr ymdrech.)
"Wetynn," hep hi," tynn dy dillat." Hynn a wnes. (Pan mae dyn yn tynnu y dillat, mae rhyw yn warantiedik 7% o weithieu, uelly mae yn llawn werth yr ymdrech.)
"Ak wetynn," hep hi, "dos i nol gauyr a'i rodi wrth ymyl y bath. Yna rait i ti seuyll ak un troet ar rimyn y bath a'r troet arall ar geuyn yr auyr. Ak, ym, wetynn reit i ti ganu Kalonn Lan tra yn rwbiaw dy uol ak un llaw a thapiaw dy benn a'r un arall."
"Gauyr?" hepe ui.
"Ie, gauyr a rodi un troet--"
"Na, aros ennyt. Gauyr? Uel yn, aniueil o deulu'r dauat yssyd yn aml a chyrn a thymer drwk, ak yssyd yn anhebyk o seuyll mewn un lle am dau uunut, heb son am pam y mae Koui medw yn seuyll ar y geuyn yn kany Sospann Uach."
"Kalonn Lan."
"Beth bynnak. Ond gauyr?"
"Mae eu really yn trossi myui ymlaenn. Gonestrwyd."
Yr oed seibyant.
"Gauyr a bath, blydi hel--"
"Hei, os yr wyt eisieu secs--"
"O'r goreu, o'r goreu ..."

Uelly, beth ymdrech yn diwedarach, myui a geueis auyr o ryw ffarm nepell, a myui a geneis Si Hei Lwli Auri idaw i stoppyaw idaw redek ymdeith/rodi y gyrn miniawk yn uy narneu medal etc.. Ak wetynn, gyta Bloteuwed yn seuyll ak yn etrych, myui a dynneis uy nillat ymdeith, gann ardangaws fuy ffurf gyhyrawk dynol (na chwerthiniwch, gymydeithyon kreulonn), ak wetyn myui a gamais ar drothwy y bath a rodi y naill troet arnaw a'r troet amgen ar geuyn yr auyr, a theimlaw yn uffar o fong, onyt wetynn yn kanu Sospann Uach gan dapyaw uy mhenn a rwbyaw uy mol.
"Na, Kalonn Lan."
"Pa ffecyn gwahanyaeth y mae yn gwneuthur?"
"Wyt eisieu secs?"
"Arglwyd gok ..."

A llyma yr oedwn, am hanner awr weti un y boreu, yn seuyll ar auyr a bath ar lann y Uenei, yn kanu Kalonn Lan etc., ak yn gobeithyaw y bydei hynn yn kreu i Uloteudwed diosk i mantell o lili'r maes etc. a rodi y hun i mi, a gobeithyaw y bydai'r prouiat yn uwy plesserus na phann y diskynneis i mywn i ard drws nessau unweith gyta uy trowsuss rownt uy pennglinieu, a syrthyaw i gysku.

Eithyr, tra yr oedwnn yn gwneuthur y petheu od hynn, beth a wnaeth Bloteuwed ydoed galw dross y hysgwyd, ak o du ol i wrych dyma dyn yn dyuot. Ak yr oed yn etrych yn guarwyd iawn, ynteu a'y wep uel llo. A sytynn myui a sylwedolais mai Gwion Rhwyni ydoed, y pel troetiwr!
"Och!" hepe ui.
"Och yn wir, eneit," hep eu. "Diolch itti, Bloteuwed, am dargfanuawt y Koui keu hwnn immi, kanys yr wyu weti bot yn darllen y ulog eu yssyd yn tynnu gwarth ar uyui a Pedr Krawts a phawp arall yssyd yn tim pel troet y Lloegrwys."
"Eithyr," hepe ui, "krap yr oedech, ak yn haedu pop geir."
"Na," hep eu, "yr wyu yn bel troetiwr o uri, ak heuyt yn hard a golygus."
"Chinny reckon," hepe ui. "Onyt Bloteuwed, onit yw hynn yn dy wneuthur yn boeth? Onyt wyt yn uy karu?"
A hep hi: "na ydwyu, Kymro, kanys keu yw pop bun, yn enwetik bunot y mae Gwytionn uab Don weti y kreu allan o lili'r maes, etc. Gwiojn Rhwyni yr wyu yn y garu."
"Onyt y mae y wep mal gauyr! A dwetyt y gwir, y mae yn waeth na gwep yr auyr yr wyu yn seuyll arni yr awron. Nit oes bot dynol a gwep mwy sarruk a hyll na y wep eu."
"Onyt," hep Bloteuwed, "y mae llawer o aryan gandaw."
"O," hepe ui. "Ar beneffits yr wyu i."
"Yn uniawn," hep hi.
Ak wetynn dyma Gwion yn kolli y lumpyn ak yn dwetyt: "Yr awron, llyma uy nial arnat, o Kymro Kanol."

A mal yr oedwn yn seuyll yno gyta uy trawt ar auyr a bath, eue a gymerod bel allan a'y gikkyaw atau yn hy. Eithyr, gwydwn ni oll pa mor wael yw y anelyat, ak eue a uethod o hanner kann llath, a'r bel a aeth i mywn i uaes parkio Morrissons. A minneu a neityeis ar geuyn yr auyr, a charlammu ymdeith, gann goti deu uys ar Wion Rhwyni a'y wep gwaeth na gauyr, a thyngu llw uot pop bun yn geu, neu, yn hytrach, uot pop bun yssyd weti y kreu o uloteu yn geu. Och o'r tristwch hwnnw!

Ond minneu a garlameis yn noethlymunn ar uy ngauyr trwy strydoed Kaer Seint, a myui a gyuarueis a Day Day a Mihangel Pontsteffan yn dyuot allan o Koui Karrek. A hwynthwytheu na dywedassant, "paham yr wyt yn marchogaeth gauyr yn noeth," kanys nit yw peth uelly yn ot yn Kaer Seint. Eithyr, hwynthwytheu a hepent: "Ha wr. Yr ydym am uynet i'r Tescos dau-dek-pedwar awr a prynu deugain kann o special brew. Eisieu ymuno?"

A minneu a es yn llawenn, kanys mae kwrw kryf, dau gydymdeith hoff cytun a gauyr yn lot gwell na bunot keu a pel troetwyr hyll o wlad yr Ysgowsdynyon.

20.7.06

Minneu yssyd yn ehangu uy gorwelyon

Diolchyateu lu i Dydgu diwaratwydgamp, yssyd weti gwneuthyr gwyrthieu, ak weti kreu ffrwt (yssyd yn swniaw'n futur, eneit) ar gyuer y blog hwnn, seu Blog y Kymro Kanol, as ryw peth o'r enw Livejournal. Goruoledwch, gydymdeithyon, kanys yn awr ni uyd reit i chwi byth wylaw o herwyd ichwi golli keink gyffrous o uy anturyawn inneu. Dyma'r dolenn:

Ffrwt y Kymro Kanol

18.7.06

Myui a euthum i welet ffilym a chouiaw ystori debyk

Brynhawngweith yn diwedar yr oedwn yn teimlaw, och ohonaw, uy mot yn treulyaw gormot o amser yn y tauarn. Uelly, neut, dyma uinneu yn mynet i’r sinema yssyd yn Llan Tudno i yuet yn dirkel allan o botel gwrw yssyd mywn boly pappur, a gwelet y ffilym anhykoel GWYCHDYN YSSYD YN DYCHWELYT. A hep myui yn uy penn: ha, eneit, nad ydyw hynn yn uy atkoffa o ystoria a glyweis beth amsser yn ol? Ac, yn wir, dyma myui yn chwilyaw yn uy kasgliat o hen hen lyfreu, a gwelet yn y plith y geinc hynauawl honn, yssyd, neut, yn debyk IAWN i ffilym GWYCHDYN. A dyma eu i chwi yr awron, un o sawl keink koll y Mabinoggyon yr ydywu yn kadw yn uy llofft odi wrth lygeit yr yskolheigiawn:

--GWYCHDYN UAB IOR-EL--

Seu yn y dydieu hynny ydoed planet Krypdinas yn drwk a llawer o keu bobol arnaw. A dyma Ior-El, ydoed yn wrda a doeth, yn rodi y unig uab, ydoed y enw Kawl-El, ymywn llong siap wy, a’y danuawn ymdeith i’r gouot. A dyma Krypdinas yn malurio ac yn diulannu i mywn i dwll du, kanys keu ydoed, a da, yn wir, ydoed yr effeithieu arbennig a wneuthpwyd gann y kyuriuiatur.

A wele, dyma Kawl-El yn cyrrhaed y daear, ac yno yr oed gandaw rymoed hynot, megis ydoed yn gryu mal kawr ak yn gallu heduan, ac, yn wir, gymaint oed y gyulumder pann ehedei yr ydoed yn cyrrhaedd penn y deith kynn Virgin Airlines, yssyd yn arau fel rhech eniwe. A dyma eu yn galw y hun yn WYCHDYN, kanys y uot a) yn wych a b) yn dyn, eithyr y uot yn dyn hynot o gyhyrrok a golykus. A dyma eu yn kudwisgaw y hun mal aelot o’r Orsed, a mynet i gudiaw y hun yn y gymdeithas Gymraeg yg Kaer Dif, ydoed yn Ynys y Ketyrn. A gwisg las ydoed y wisg eu yn yr Orsed, kanys y uot dim digon adnabydus na kyuoethawk i gael gwn wenn. A'y enw kud ydoed Klerk Kont, a’y gudwisk hynot anirnadwy ydoed mwstas ffug ydoed yn rodi dann y drwyn. A pann gwiskaw ydoed y mwstas hwnn, ni wydei nep pwy ydoed, eithyr Klerk Kont. Eithyr, pann tynnu y gwnai eu y mwstas hwnn, yr oed gwyr yn mynet: “Ha, eneit, pwy yw eu? Ai aterynn ydyw? Ai awyrenn ydyw? Na, eneit, Gwychdyn yw!”, ac ydoed y gwisg glas derwydol yn troi i mywn i glogyn idaw, ak ehedek ymdeith y gwna i achub rywun a ydoed dim yn gallu tiwnio i mywn i S4K ar y setieu ffriuiw, neu oedynt yn kael trafferth kaffael odleu digriu yn ymrysson y beird, etc. Kanys mawr ydoed parch y popl tuak at Gwychdyn, eithyr pann ydoed yn rodi y uwstas yn ol dan y drwynn eu, nit ydoed neb yn cymryt sylw ohonaw, kanys Klerk Kont ydoed unweith etaw, a diulas ydoed i bobol. A mawr ydoed tristwch Klerk o’r herwyd. Och o hynny, wylwch drostaw.

Ak undyd, dymma Llio Llain, ydoed yn aelot o’r orsed gyta gwn gwynn (kanys aelot pwysik o’r kyuryngeu ydoed hi, ak neut yn kyulwynaw petheu mal Unet 5 a Nosweithieu Llawenn lleawl), ac yn dirgel yn kael y karu gan Klerk Kont seu Gwychdyn, yn kael y herwgipiaw gann y dyn milein o Seis, y enw Llywarch Llwchwr, ydoed yn uoel ac yn hoff o geisiaw kymryt drossod y byt, eithyr i uot BOB TRO YN METHU o herwydd y pesky kids etc. Eithyr y tro hwnn eue a gippiawd Llio Llain yn y hourennyd mawr du, a’y dwyn i’w gartreu mewn ynys bellennik. A dim onyt Gwychddyn allei y hachub.

A mawr ydoed penpleth Klerk Kont, kanys eue a wydei y bydei Llio Llain yn karu Gwychdyn o herwydd y glogyn glas a’y wynneb golyggus di-uwstas, onyt ni uydei byth yn karu Klerk, kanys dyn kyffretin ydoed. Ak wele, gydymdeithyon, metaffor ydoed.

A Klerk a beneruynnawd dynnu y uwstas kyurin a throsi yn Gwychdyn, ak ehedek i wynnepu Llywarch Llwchwr ar y ynyss.

A hep Llwchwr, “Ha ha ha ha ha ha wr, dymma yr wyt weti kyrrhaed uy ynys dirkel. Ak yr wyu, neut, weti kipyaw Llio Llain, kanys ffit uel butcher’s dog yw hyhi, a myui yssyd y phriotti a gwneuthur babbis a hi.”
A hep Gwychdyn, “Na, Llywarch Llwchwr, ni allau adael i ti wneuthur hynn.”
“Onyt,” hep Llwchwr, “wyt ti am geisiaw uy prynnu i ffwrd gyta petheu e.e. papell anuerth, ffon euraid, neu, hint hint, pair dadenni a fydei yn gymmorth mawr gyta uy ymgeis i goti bydin o dynyon nat ydynt yn marw o what a giveaway?”
A hep Gwychdyn, gan chwythu y urest allan yn wrol, “Na, yr wyu am gikkyaw dy din di nol i Bontrytuendigeit, y kokk oen.”

A mal hynn y gwnaeth. Eithyr drwy ressymeu anhebykkol, Llywarch Llwchwr a dihankod, kanys yr oed angen sequel.
A hep Llio Llain mal hynn: “O Gwychdyn, yr wyt a) yn wych ond b) yn dyn ak o ganlynyat yr wyu yn dy garu, eneit. Gwna uabbis gyda myui.”
Onyt Gwychdyn hep: “O Llio, na allet ti uy ngharu uel yr wyu go iawn!” Ac wele, eue a rodod y mwstas yn ol dan y drwynn, a Llio a welod ar unweith mai Klerk Kont ydoed.
A hitheu a aeth “Gwae ui o’m ganet!” A hitheu a uu uarw o dorriat kalon a penpleth llwyr yn y uann.
A hep Gwychdyn: “Shit!”

A uelly y teruynn y geink honn o’r Mabinoggyon.

17.7.06

Keink ryuedawl am yr hynn yssyd yn digwyd pann gymmyskwch alkohol a bardoniaeth

Seu mal yssyd yn hyspys yn barot, y mae deu gyueill da gennyu (yn ychwanek i rei ereill ydynt yn hurt iawn ak nit yn werth immi yskriuennyaw amdanynt ymma), seu eu henweu, Mihangel Ponsteffan, a Dauid Dauides, seu Day Day inni. Y naill yssyd yn wr da a katarn, yn hoff o gannu a hela bunot gyta chymoryth y offeryn mawr, kein. Eithyr y llall yssyd yn wr ryuet dros penn, ac, mal yr wyu weti dwetyt isot, yn alkoholyd ac yn ffemynydd. Namyn, y mae kyurinach gan Day Day, a, gann y uot hep prynyaw y rownd eu immi neithiwr, yr ydwyu yn llitiawk dros penn gydak eu, ac yn mynet i datkelu y gyurinach eu ichwi yr awron. Eithyr oss yw ynteu yn kaffael y rownd i mywn heno, bydau yn dylityaw hwn. Gonestrwyd.

Seu dyma beth yw yr ystori hynot honn. Ulynydoed yn ol, pann ydoed Day Day yn lenkyn bychan didwetyt, yr ydoed eu ynbyw ar wersyll y gat gyda y deir priu rieni (ni wnn pam ydoed tri gandaw – ymdengys bot gann lawer o wyr Ynys y Ketyrn teir priu rieni, ak, mae yn debyk, niuer uwy o rei llei pwysik. Ond beth bynnak.), ak yr ydoed y dat eu yn gweithyaw mal bard. Kanys mae reit i bop gwersyll milwrawl gaffael bard, eneit. A treigylgweith ydoed y dat eu yn gweithyaw ar gywyd hynot o hir ac alaethus ar gyuey pwyllgor kroessaw ryw eisteduot, a mawr ydoed i boentot eu, kanys y groes o gyswllt nit ydoed yn hawd y ffuruiaw weti pum peint o gwrw (nawr gwydwch pa le y daw blas Day Day am y kwryu melys), ac yn y lit taulawd ynteu y papur gyta’r kywyd anorffenetik arnaw allan o’y ffenestyr. Onyt Day Day uychan ydoed yn chwaray gyta phottel wiski hanner gwak odi tann y ffenestyr, a’r papur kywyd hwnnw a diskynawd ar y benn. Ak ar yr un pryd dymma Day Day yn rodi y bottel wiski i y weuseu eu, a keisiaw kymryt llymeit. Ac, wele, yn yr ennyt wyrthyawl honn, dyma hutlath a lletrith hynot yn digwyd, a kyunawd y bardoniaeth a’r wiski yg korff bychan Day Day, a dymma eu yn trawsffuruyaw! Och o’r trawsffuruyaw hwnnw! Kanys trodd eu yn uawr ac yn wyrd, ac yn gryu mal bendigeiturann, ac yn hyll mal Pedr Krawts yn y boreu, ac, neut, llit diruawr ydoed arnaw.

A dyma eu yn dechreu rhedek blith draphlith drwy y gwersyll kat, a karlammu am Kaer Seint yn Aruon, mal dyn medw (eithyr, dyn medw mawr gwyrd hyll). Ac eue a ualuryawdd bop peth a welei, gan gynnwys yr archuarchnat yssyd tu allan i’r dreu (a dyna pamm bu reit idynt ateilatu Tescos yno eneit).

A wele, dyma eu yn mynet i mywn i’r Anglesey Arms a gouyn am kwrw, onyt yn lle idaw dwetyt:
“Os gwelwch chwitheu yn da, feistyr y dauarn, a gau inneu beint o gwryu?!”,
yr hynn a daeth allan ydoed:
“Grarrarrrrrrmblgr, drawsuantach en wreidgoll!”
Ac mawr ydoed yr oun ar wr y dauarn. Ac etaw gounyawd eu pa beth ydoed Day Day y eisieu, a’r tro hwnn medei Day Day:
“Rwwwwwwthhthgrgch, gyrrybytygerbyteudrosti!”

Ac wele, diruawr benplet a llawenyd ydoed ar wyr y dauarn oll, kanys yma yr oed kawr mawr gwyrd kyhyrawk (nit yw hyn allan o’r kyffretin yg Kaer Seint yn Aruon, eneit), oed heuyt yn gallu kyghanedu! Och a wi o’r wypodaeth hwnnw. A Day Day, weti kyuansodi eglyn digriu iawn idynt ydoed yn kynnwys y gair “blwmars”, a phawp oedynt yn dwetyt bydei hwnnw yn kaffael deg mark idaw yn y Talwrn, kanys uot Giraldus Llwyd Owein yn hoffi y geir ‘blwmars’, eue a gaffaelod beint o gwrw gan bawp ydoed yno. A medw iawn ydoed eu o'r herwyd.

A dyna mal y dechreuod ynteu y uywyt o diota, a dyna heuyt mal y mae eu yn trawsffuruyaw pan y mae eu yn mynd yn llityawk, llityawk, megys y mae eu yn mynet yn uawr a gwyrd ak yn kaffael gallu o nunlle i gyghanedu yn well hyt yn oet na Myrdin ap Dauat. A seu y mae popol yn y alw, YR ANHYKOEL UWLCH. Ie, y Bwlch yw eu, ak na wnewch chwi eu yn llityawk (e.e. wrth son am sut y mae lle bunot y tu ol i’r sink neu mewn dillat isau see-through yn hytrach na mywn sauleod o rym kyuartal yn rengoed y llywotraeth), kanys eue a dry yn uawr a hyll a byd eu yn agawr kann o gyghaned ar ych tineu chwitheu.

Gwir yw hynn bop geir. Gouynnwch chwitheu idaw. Onyt kouiwch beityaw y wneuthyr eu yn ry llitiawk, eneit ...

4.7.06

Am y keu Saesson a'y anallu i ennill unryw peth

Llawennyd yssyd arnau, gwir lawenyd megis yr heul yn dyuot dros y gorwel pellenik, neu darkanuawt uot diotyd am dim tu ol i'r bar kanys uot hi'n benn blwyd ar uerch y barueistr. O, happus dydieu! Kanys, wele, y Lloegrwys yssyd allan o Kwpann y Byt, ak ni chlyweis yryoet kymeint o floediaw bydarok yn tauarn yr Anglesey (yssyd yn ieith Ynys y Ketyrn, ynyss Mon) pann yr aeth pop kik wenfflamm Borthowgeaid i mywn i'r rwyt Saesnikeid keu. Ak wele, y bloedyaw ydoed wetyn, ymywn Saesnek ysywaeth, "Yr ydych yn mynet atreu, yr ydych yn mynet atreu, yr ydych yn mynet, mae Lloegyr yn mynet atreu". Och o'r gyuedach.

Da heuyt ydoed y plesser dihaual o welet Gwion Rhwyni, yssyd yn Ysgowsdyn milein, yn kael y danuawn am kawot gynnar o'r herwyd idaw rodi troet yng kwt un o'r Pothowgeyeit dewryon, ac yna pikaw ffeit, megis yn siarat mal hynn: "ti'n hafin a chwerthinyat, e? e? e? kam dawn, kam dawn, eneit", ak yna mynet yn wallgou yn y stauelloed newyt, a (yr ydwyu yn dyualu ymma) mynet i bisso yn esigityeu sbaryon Rheinalltaw a kachyaw yn y koffi dispenser. Dynna uydei pop Ysgowsdyn yr wyu inneu'n y adnabot yn y wneuthur. Neut, paham, y goyunnau, y bu i Swein Gwron dewys y uath uilwr sarruk i ymlit idaw yn ei dim gornset eu? Och, na uydei'r un peth yn digwyd, er engkreifft, yn tim rhygbi Kymru, yssyd a phop gwr yn dalsyth a phur, megis Gauddyn uab Hen, yssyd neut a gwallt gwyryon a choeseu llyuyn, onyt y mae y karyat, Siarled Eklwys, yn dipyn o uun aeldu ber, a bydwn inneu yn rodi un idi petassei hi a) yn digwyd bot yn Kaer Seint ak yn uedw iawn, iawn, a b) dim a llawer gwr gwron mawr yn y hamdiffyn pop awr o'r dyd. Na, och, yr wyu weti triaw o'r blaenn, ak nawr mae injyncshyn gennyu o'r llys barn. Galanas ydoed, &c.

Ond, eneit, beth am Dafydd Ueichyam, eue a ydoed archgaptenn y tim gornset pel y troet y Lloegrwys? Mawr ydoed uy chwerthin a choti gwytryn pann ydoed yn wylaw ar ochor kae y gat, ak wetyn yn darllen ar y teledyd y diw wetyn pann ydoed yn dywetyt y uot yn ymdeawl o'r tim. Neut, medau mai "darllen" ydoed, eithyr nit oed yn darllen mor da a mai rei plant teiroet ak mae y wallt eu heuyt yn wirion. Pam y mae chwaraewyr y gornesteu hynn y gyt a gwalltyeu keu? Wele Anddyn Mwrei, yssyd yn chwarae yn Din-Wimpl, eithyr yssyd nawr weti diskynn odi yno kanys y uot bronn mor krap a Timm Iardyn--neut y wallt eu yssyd mal twrki weti diskynn i kysgu ar y benn ak angkouio deffraw. Och! Myui, eneit, yssyd a gwallt kall iawn, a dim baryu o gwbwl, kanys yr wyu yn gatael i Day Day y dorri eu bop wythnos gyta y Rimmel Shaving Solutions for Gwyrda. Eithyr aml y mae yn uedw pann y gwna hynn, a bydau yn kyrraed y tauarn wetyn yn waet i gyt, a hep y tauarngeitwat: "paham yr wyt yn waet i gyt a gyta gwallt mal Tomm Hankieu yn y Da Uinshy Cod?" Ak, oy, reit uyd immi ddywetyt wrthaw, a mawr uyd y lawennyd, kanys kok oen yw eu, eithyr y uot yn darparu kwrw, yssyd yn uy gwneuthur yn llawenn heuyt.

Uelly, eneit, yr wyu weti penderuynnu rodi digon ar wylyaw chwaraeon am yr hau, kanys twp ydynt oll, ak er y miri a geir o wylyaw y Lloegrwys yn methu dro ar ol tro, llawer gwell ydyw mynet i tauarn dawel a chwarae Monopoli ar y peiryant goleu, gyta peint yn uy llaw, ak yn kolli pop tro kanys nit wyu yn kouiaw pa un o Uerchet y Speis oedynt yn lesbiat. Och na darlleneis uwy o Smash Hits pan oedwn yn ieuanc ...